16 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID PDF 368 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr aelod yn falch o nodi ar y cyfan fod perfformiad yr adran yn gyffredinol dda. Tynnwyd sylw at rai penawdau, gan gychwyn gyda Cyflawni Arbedion. Eglurwyd nad sôn am arbedion o fewn yr Adran Gyllid mae’r rhan yma o’r adroddiad ond arbedion ar draws y Cyngor, a nodwyd nad yw rhai adrannau yn gallu cyflawni £0.5miliwn o arbedion a oedd i’w ddisgwyl eleni. Mynegwyd fod disgwyliad I'r setliad ar gyfer 2023/24 gan y Llywodraeth fod yn is ac ei bod yn gynyddol debygol na fydd modd llithro cynlluniau i gael cynllun ariannol cytbwys. Nodwyd y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno dros y misoedd nesaf.
O ran yr Gwasanaeth Archwilio Mewnol, nodwyd fod pwysau capasiti wedi bod yn broblem, ond dros fisoedd cyntaf y flwyddyn fod y gwasanaeth wedi bod yn gwneud archwiliadau mewnol ar oddeutu 70 o Gynghorau Cymuned. Tynnwyd sylw at waith da mae’r Gwasanaeth Trethi wedi yn ei wneud yn sicrhau dosbarthu £150 i aelwydydd dros y sir, ac wedi llwyddo i’w wneud i 99% o aelwyd erbyn diwedd Mehefin. Nodwyd mai hyn oedd y ffigwr gorau yng Nghymru. Mynegwyd fod Datganiad Cyfrifon drafft y Cyngor wedi ei gyflwyno ym mis Mehefin eleni a rhyfeddwyd at allu’r adran i’w gwblhau mewn cyfnod mor fyr o amser.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Amlygwyd llwyddiant yr adran i sicrhau taliadau o £150 i aelwydydd y sir ac fod y gwasanaeth yn haeddu canmoliaeth yn dilyn sicrhau taliadau dros gyfnod Covid yn ogystal.
¾ Mynegwyd fod lleihau mewn cyfnod prosesu budd-daliadau a holwyd beth oedd hyd prosesu ceisiadau. Nodwyd oddeutu 13.5 diwrnod ar gyfer cais newydd a 5.5 diwrnod os addasiadau.
Awdur: Dewi A Morgan