5 DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL PDF 329 KB
Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Hedd Vaughan Evans (Rheolwr Gweithrediadau).
PENDERFYNWYD
Derbyn a chymeradwyo y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae
Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 yn gosod gofynion
penodol ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu trefniadau rheoli partneriaethol trwy gydbwyllgorau ffurfiol.
Gofyniad
Rhan 5 yw i’r Cydbwyllgor adolygu a chymeradwyo datganiad rheolaeth fewnol.
Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi ei ddarparu i gyd-fynd â’r gofyniad
hwn. Mae'r ddogfen wedi ei pharatoi i gynnig fframwaith i weithrediad y Bwrdd
Uchelgais.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (diwygio)
2018 yn gosod gofynion ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu rheoli partneriaethol trwy gydbwyllgorau ffurfiol. Nodwyd fod
gofyn i’r Bwrdd adolygu a chymeradwyo datganiad rheolaeth fewnol sydd yn amlygu
trefniadau cadarn, tryloyw a sy’n seiliedig ar arfer gorau. Eglurwyd fod hyn
wedi ei gadarnhau gan Archwiliad Mewnol gan Gyngor Gwynedd fel y Corff Atebol.