Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 30/09/2022 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 5)

5 DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL pdf eicon PDF 329 KB

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 yn gosod gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu trefniadau rheoli partneriaethol trwy gydbwyllgorau ffurfiol.

 

Gofyniad Rhan 5 yw i’r Cydbwyllgor adolygu a chymeradwyo datganiad rheolaeth fewnol. Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi ei ddarparu i gyd-fynd â’r gofyniad hwn. Mae'r ddogfen wedi ei pharatoi i gynnig fframwaith i weithrediad y Bwrdd Uchelgais.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (diwygio) 2018 yn gosod gofynion ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu rheoli partneriaethol trwy gydbwyllgorau ffurfiol. Nodwyd fod gofyn i’r Bwrdd adolygu a chymeradwyo datganiad rheolaeth fewnol sydd yn amlygu trefniadau cadarn, tryloyw a sy’n seiliedig ar arfer gorau. Eglurwyd fod hyn wedi ei gadarnhau gan Archwiliad Mewnol gan Gyngor Gwynedd fel y Corff Atebol.