Dylan J Williams, Prif Weithredol Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd Uchelgais i gyflwyno cais gan Gyd-Bwyllgor Corfforaethol y Gogledd (CBC), i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i ryddhau rhan o amser eu Cyfarwyddwr Portffolio i gyflawni rôl Prif Weithredwr y CBC, yn y lle cyntaf dros dro tan 31 Mawrth 2023.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Bu i’r Bwrdd
Uchelgais
·
gefnogi
cais y CBC i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos
tan 31 Mawrth 2023 ar sail secondiad rhan amser i ymgymryd â rôl y Prif
Weithredwr dros dro.
·
Bod
yr holl gyflogaeth gysylltiedig a'r costau cysylltiedig yn cael eu hysgwyddo
gan CBC y Gogledd
·
Dirprwyo'r
awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac
Is-Gadeirydd y Bwrdd Uchelgais i gytuno ar ail-ddyrannu cyfrifoldebau sydd o fewn
y Swyddfa Rheoli Portffolio (PMO) er mwyn sicrhau fod y trefniadau dros dro yn
cefnogi blaenoriaethau’r PMO a’r cyfrifoldeb i holl bartneriaid y Bwrdd
Uchelgais.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Neal Cockerton
(Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint).
PENDERFYNIAD
Bu i’r Bwrdd Uchelgais
·
gefnogi cais y CBC i ryddhau
amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos tan 31 Mawrth 2023
ar sail secondiad rhan amser i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr dros dro.
·
Bod yr holl gyflogaeth
gysylltiedig a'r costau cysylltiedig yn cael eu hysgwyddo gan CBC y Gogledd
·
Dirprwyo'r awdurdod i'r
Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Bwrdd
Uchelgais i gytuno ar ail-ddyrannu cyfrifoldebau sydd o fewn y Swyddfa Rheoli
Portffolio (PMO) er mwyn sicrhau fod y trefniadau dros dro yn cefnogi
blaenoriaethau’r PMO a’r cyfrifoldeb i holl bartneriaid y Bwrdd Uchelgais.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Cyflwynwyd
cais gan Gyd-Bwyllgor Corfforaethol y Gogledd i’r Bwrdd Uchelgais ryddhau rhan
o amser eu Cyfarwyddwr Portffolio i gyflawni rôl Prif Weithredwr y CBC, yn y
lle cyntaf dros dro tan 31 Mawrth 2023.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad
yn cyflwyno cais i ryddhau rhan o amser y Cyfarwyddwr Portffolio i gyflawni rôl
Prif Weithredwr y CBC dros dro tan 31 Mawrth 2023. Eglurwyd fod llawer o
faterion angen ymateb iddynt ac angen unigolyn i arwain y gwaith tan ddiwedd y flwyddyn
ariannol.
Eglurwyd
fod posibilrwydd y bydd y Bwrdd yn rhan o’r CBC yn y dyfodol, a bydd angen i’r
Prif Weithredwr fod yn cynorthwyo i roi ffocws i’r CBC ac i sicrhau nad oes
dyblygu gwaith rhwng y CBC a’r Bwrdd Uchelgais. Mynegwyd y bydd y Cyd-Bwyllgor
Corfforedig yn talu costau cyflogaeth a costau cysylltiedig o secondiad y
Cyfarwyddwr Portffolio a fydd hefyd o bosib yn rhoi cyfle datblygol i rai o
fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾
Nodwyd dealltwriaeth pam yr angen i fynd i’r cyfeiriad yma ond
pwysleisiwyd mai dim ond cefnogaeth tan Mawrth 2023 fydd gan rai Aelodau o’r
Bwrdd. Holwyd beth yw’r cynllun ar gyfer cyflogi Prif Weithredwr i’r
Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar ôl y cyfnod yma. Mynegwyd bydd angen i’r Prif
Weithredwr dros dro fod yn datblygu y rôl, ynghyd a disgwyliadau a trefniadau
dros y cyfnod yma.
¾
Holwyd beth yw’r cynllun o fis Mawrth 2023 ymlaen. Nodwyd ei fod
eto yn rhan o rôl y Prif Weithredwr dros dro i ddeall y rôl a rhoi trefn
hysbysebu swydd yn ei le.
¾
Nodwyd llawer o cwestiynau heb atebion ar hyn o bryd a fod hwn yn
rhoi ateb pragmataidd i’r sefyllfa, ac amlygwyd fod y
cyfnod o 6 mis am hedfan heibio.
¾
Pwysleisiwyd ei bod yn amlwg fod apwyntio Prif Weithredwr i’r
tymor hir am gymryd amser ac felly bydd adroddiadau yn cael ei cyflwyno yn
gyson i roi diweddariad i’r Bwrdd.