8 STRATEGAETH YNNI RHANBARTHOL - CYNLLUN GWEITHREDU PDF 437 KB
Henry Aron, Rheolwr y Rhaglen Ynni, Uchelgais Gogledd Cymru a Rhys Horan, Arweinydd Strategol, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i geisio
cymeradwyaeth y Bwrdd i'r Cynllun Gweithredu drafft i Strategaeth Ynni Gogledd
Cymru a'u hargymhellion ynghylch cymeradwyaeth awdurdod lleol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd
y Cynllun Gweithredu drafft.
Cymeradwywyd
trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r
Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Ynni Rhanbarthol.
Cymeradwywyd i'r Cynllun Gweithredu gael ei ystyried gan
bob Awdurdod Lleol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rhys Horan, Arweinydd Strategol (Gwasanaeth Ynni Llywodraeth
Cymru)
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd y Cynllun Gweithredu drafft.
Cymeradwywyd trefniadau llywodraethu arfaethedig ar
gyfer goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Ynni
Rhanbarthol.
Cymeradwywyd i'r Cynllun Gweithredu gael ei ystyried
gan bob Awdurdod Lleol.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Cadarnhawyd Strategaeth Ynni
Gogledd Cymru gan y Bwrdd Uchelgais a Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth
Cymru ym mis Mawrth 2021. Mynegwyd mai datblygu’r Cynllun Gweithredu yw’r cam
nesaf yn y broses cynllunio ynni rhanbarthol a’i nod o drosi blaenoriaethau yn
gamau ac ymrwymiadau strategol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi
fod yr adroddiad hwn yn gam pwysig ymlaen o ran Ynni Rhanbarthol. Eglurwyd fod
y Strategaeth Ynni Rhanbarthol wedi ei dderbyn gan y Bwrdd llynedd ac eu bod
heddiw yn cyflwyno’r Cynllun Gweithredu Drafft. Pwysleisiwyd fod Gogledd Cymru
yn arwain y ffordd o ran gwaith yn y maes hwn.
Nodwyd fod y strategaeth a
dderbyniwyd llynedd yn amlygu’r prif flaenoriaethau fel mae’r Cynllun
Gweithredu. Esboniwyd fod trafodaethau a gynhaliwyd wedi amlygu’r angen i
ystyried y sector diwydiannol ac felly maent wedi eu cynnwys. Mynegwyd fod y
Cynllun Gweithredu yn amlygu sut mae modd symud y blaenoriaethau o fewn y
strategaeth i gamau penodol.
Eglurwyd fod y Cynllun Gweithredu
yn rhan o’r llun cyfan, gan bwysleisio ei fod yn cyfleu targedau ynni sydd yn
cyd-fynd a pholisïau cenedlaethol. Pwysleisiwyd yn dilyn hyn bydd cynlluniau
lleol yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf cyn eu cyflwyno i’r awdurdodau
lleol. Nodwyd fod y gwaith o greu’r ddogfen wedi cael ei oruchwylio gan
grŵp tasg a gorffen ble gwelwyd cefnogaeth amlwg gan ran ddeiliad.
Pwysleisiwyd fod y ddogfen yn
amlygu pwy sydd yn gymwys i symud y cynllun yn ei flaen ynghyd a’r amserlen a’r
elfen gyllidol. Esboniwyd fod nifer o’r camau wedi eu hariannu yn barod neu
ddim yn rhagweld yr angen am arian ychwanegol. O ran Llywodraethant mynegwyd
fod y grŵp Tasg a Gorffen bellach wedi cyflawni eu tasg a bydd yn cael ei
addasu i fod yn Grŵp Prosiect i oruchwylio’r gwaith ac i gytuno ar
drefniadau i adrodd ar gynnydd. Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i
ariannu tair swydd newydd i gefnogi
gyda’r gwaith ac i gynorthwyo gyda adrodd ar gynnydd.
Amlygwyd mai taith yw datblygu’r
system ynni, ac fod y cynllun hwn yn rhan o’r daith.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Holwyd o ran y dair swydd newydd os y bydd gofynion
ariannol ar y Bwrdd. Nodwyd fod y dair swydd newydd yn cael ei ariannu gan
Lywodraeth Cymru, a pwysleisiwyd ar hyn o bryd nad oes dim ymrwymiad ariannol
i’r Bwrdd.
¾ Cytunwyd y bydd yr adroddiad yma yn mynd i’r Bwrdd
Cyflawni Busnes.
¾ Mynegwyd fod y Cynllun lefel uchel ar hyn o bryd
sydd yn rhoi trefn yn ei le. Nodwyd y bydd cynlluniau mwy gweithredol yn cael
ei rhannu nes ymlaen.