PROSIECT TRAFNIDIAETH A DATGARBONEIDDIO (HYDROGEN) - CAMAU NESAF
Graham
Williams, Rheolwr Prosiect a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Cymeradwywyd
y camau nesaf ar gyfer y prosiect a'r egwyddorion caffael drafft.
Bu i’r
Bwrdd ddirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr y Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r
Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, awdurdod i gwblhau manyleb yr ymarferiad caffael yn
derfynol ac yna ymgymryd â'r ymarferiad caffael ar ran y Bwrdd.
Nodwyd
yn dilyn cwblhau'r broses gaffael bydd argymhelliad yn cael ei gynnig i'r Bwrdd
er cymeradwyaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Graham Williams (Rheolwr Prosiect) a Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth
Gweithrediadau)
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd y camau nesaf ar gyfer y prosiect a'r
egwyddorion caffael drafft.
Bu i’r Bwrdd ddirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr y
Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, awdurdod i
gwblhau manyleb yr ymarferiad caffael yn derfynol ac yna ymgymryd â'r
ymarferiad caffael ar ran y Bwrdd.
Nodwyd yn dilyn cwblhau'r broses gaffael bydd
argymhelliad yn cael ei gynnig i'r Bwrdd er cymeradwyaeth.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Ar hyn o bryd, mae'r prosiect yn
rhedeg yn unol â'r ffordd ymlaen a ffafrir a gymeradwywyd gan y Bwrdd Uchelgais
Economaidd ym mis Ebrill 2022. Y cam nesaf yw ceisio cymeradwyaeth gan y Bwrdd
Uchelgais i symud ymlaen i'r cam nesaf a chaffael noddwr i'r prosiect.
TRAFODAETH
Trafodwyd yr adroddiad.