10 RHEOLAETH NEWID: PROSIECT SAFLE STRATEGOL BODELWYDDAN PDF 337 KB
Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a David Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo i gyflwyno adroddiad yn argymell tynnu prosiect Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru.
Penderfyniad:
Cytunwyd
i dynnu prosiect Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan allan o Gynllun Twf
Gogledd Cymru yn ffurfiol ac yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU am y penderfyniad.
Cytunwyd
bod y Bwrdd yn nodi bod cyllid sydd wedi'i glustnodi dros dro i'r prosiect yn
cael ei gadw o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru a bod y penderfyniad ar brosiect
neu brosiectau amgen yn fater i'r Bwrdd Uchelgais ei benderfynu.
Gofynnwyd
i’r Swyddfa Rheoli Portffolio gyflwyno papur mewn cyfarfod yn y dyfodol yn
amlinellu'r broses ar gyfer dewis prosiect amgen er mwyn i'r Bwrdd ei ystyried.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd
Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau) a David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac
Eiddo).
PENDERFYNIAD
Cytunwyd i dynnu prosiect Safle Strategol Allweddol
Bodelwyddan allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru yn ffurfiol ac yn rhoi gwybod i
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y penderfyniad.
Cytunwyd bod y Bwrdd yn nodi bod cyllid sydd wedi'i
glustnodi dros dro i'r prosiect yn cael ei gadw o fewn Cynllun Twf Gogledd
Cymru a bod y penderfyniad ar brosiect neu brosiectau amgen yn fater i'r Bwrdd
Uchelgais ei benderfynu.
Gofynnwyd i’r Swyddfa Rheoli Portffolio gyflwyno
papur mewn cyfarfod yn y dyfodol yn amlinellu'r broses ar gyfer dewis prosiect
amgen er mwyn i'r Bwrdd ei ystyried.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Daeth Caniatâd Cynllunio
Amlinellol y prosiect fel y bwriadwyd yn wreiddiol o 1,700 a mwy o unedau
preswyl, 26 hectar o dir cyflogaeth, canolfan leol, ysgol, canolfan feddygol,
gwesty, cartref gofal ychwanegol, defnydd hamdden wedi dod i ben ym mis Mawrth
2021. Roedd y ddau ddatblygwr sector preifat wedi tynnu'n ôl o'r prosiect cyn
i'r caniatâd ddod i ben.
Eglurwyd fod y prosiect yn un o
chwech o fewn y rhaglen Tir ac Eiddo ac amcangyfrifwyd ei fod yn cyflawni 26
acer o dir cyflogaeth, 1,715 o dai newydd, ysgol gynradd, canolfan leol,
cyfleusterau hamdden ac adloniant, 576 o swyddi, £20m y flwyddyn o GVA ac
oddeutu £185m o fuddsoddiad cyfalaf.
O ganlyniad i hyn gofynnwyd i’r
Bwrdd i dynnu’r prosiect allan o’r Cynllun Twf Gogledd Cymru.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi
fod yr adroddiad yn gais i dynnu prosiect Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan
allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru yn ffurfiol. Mynegwyd fod y cynllun hwn yn un
mawr ac amlygwyd fod nifer o newidiadau wedi bod yn dilyn Adolygiad o Gynllun
Datblygu Lleol sir Ddinbych ar gyfer 2023.
Eglurwyd fod y wybodaeth
aelwydydd wedi'i diweddaru ar gyfer y cyfnod 2023-33 a'r Arolwg Tir Cyflogaeth
2021 ar gyfer yr un cyfnod yn
amcangyfrif bod y galw am gartrefi newydd a thir cyflogaeth ar gyfer prosiect
Bodelwyddan yn gostwng i 400 o gartref a 1715 yn ôl yn 2016. Ategwyd yn ogystal
fod y caniatâd cynllunio wedi rhedeg allan ôl yn Mawrth 2021 ynghyd a’r
datblygwr yn tynnu yn ôl. Mynegwyd fod
llinell amser ar gyfer mabwysiadu'r
Cynllun Cyflenwi Lleol a
adolygwyd hefyd wedi'i ymestyn ac amcangyfrifir na fydd y Cynllun
newydd yn cael ei fabwysiadu tan
ganol 2025. Eglurwyd o ganlyniad na fyddai’r gwaith yn cychwyn tan canol 2028
ar y cynharaf.
Esboniwyd fod trafodaeth wedi ei
gynnal gan y Bwrdd Rhaglen ac eu bod yn argymell ei dynnu yn ôl ac i
glustnodi’r arian o fewn y Cynllun Twf er mwyn i’r Swyddfa Rheoli Portffolio
gyflwyno papur i gyfarfod yn y dyfodol yn amlinellu'r broses ar gyfer dewis
prosiect amgen er mwyn i'r Bwrdd ei ystyried.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Mynegwyd fod angen derbyn fod rhai cynlluniau ddim
am gael ei symud ymlaen ac fod angen dechrau’r broses o sganio’r gorwelion mor
fuan a bo modd.