11 RHEOLAETH NEWID: MORLAIS PDF 347 KB
Henry Aron (Rheolwr y Rhaglen Ynni, Uchelgais Gogledd Cymru) i geisio cymeradwyaeth y Bwrdd i argymhellion
y PMO ynghylch Cais i Newid Morlais
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd
y cais i newid.
Nodwyd gan
y bydd y cais i newid bydd angen i Fenter Môn ddatblygu a chyflwyno achos
busnes amlinellol newydd i'r Bwrdd ei ystyried.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau)
PENDERFYNIAD
Nodwyd gan y bydd y cais i newid bydd angen
i Fenter Môn ddatblygu a chyflwyno achos busnes amlinellol newydd i'r Bwrdd ei
ystyried.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cais hwn yn gofyn am newid i brosiect. Eglurwyd mai dyma’r OBC cyntaf a gymeradwywyd gan y Bwrdd ond y bu iddo gael ei dynnu yn ôl yn sgil cyfuniad o gyfyngiadau cyllid WEFO a rheolau cymorth gwladwriaethol. Nodwyd y bu i Menter Mon dderbyn yr arian gan WEFO ar gyfer gallu darparu isadeiledd ar y tir, ond nad oedd arian wedi ei ddiogelu ar gyfer ehangu y cynllun ymhellach. Mynegwyd fod Menter Mon yn cyflwyno cais i’r Bwrdd am gefnogaeth i newid ac i’r £9m gael ei glustnodi gan y rhaglen er mwyn caniatáu i OBC diwygiedig gael ei gyflwyno ganddynt.
Nodwyd fod yr OBC gwreiddiol yn cynnwys £9m gan y Cynllun Twf a £25m gan WEFO i gydariannu’r Cynllun ond bellach fod y prosiect yn mynd rhagddi drwy arian WEFO yn unig.
Eglurwyd fod Menter Mon yn gofyn am gefnogaeth y Bwrdd Uchelgais i gadw y £9m sydd wedi ei glustnodi o’r Cynllun Twf er mwyn dileu y rhwystrau canlynol i’r cynllun sef i gysylltu a’r Grid Cenedlaethol a monitro effeithiau amgylcheddol tanforol. Mynegwyd mai enw’r prosiect diwygied yw Prosiect Cydnerth.
Amlygwyd yr amserlen diwygiedig gan nodi eu bod yn awyddus i gyflwyno yr OBC haf nesaf, ac yna adeiladu a gwariant i gychwyn yn ystod Haf 2024. O ran buddion a allbynnau eu bod yn aros yr un fath â’r prosiect gwreiddiol ond eu bod yn cael ei rhannu rhwng y prosiect a ariennir gan WEFO a Prosiect Cydnerth. Nodwyd fod llythyr cefnogaeth wedi ei dderbyn mewn egwyddor gan WEFO ym mis Medi.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Nodwyd ei fod yn gais rhesymol – i barhau i fuddsoddi o fewn y cynllun.
¾ Nodi prosiect wedi bod yn Bwrdd Cefnogi Busnes yn flaenorol a hapus i weld y newid.
¾ Pwysleisiwyd na fydd unrhyw ymrwymiad i arian heddiw tan y bydd Cynllun Busnes wedi ei dderbyn gan y Bwrdd yn y dyfodol.