Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 30/09/2022 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 11)

11 RHEOLAETH NEWID: MORLAIS pdf eicon PDF 347 KB

Henry Aron (Rheolwr y Rhaglen Ynni, Uchelgais Gogledd Cymru) i geisio cymeradwyaeth y Bwrdd i argymhellion y PMO ynghylch Cais i Newid Morlais

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y cais i newid.

 

Nodwyd gan y bydd y cais i newid bydd angen i Fenter Môn ddatblygu a chyflwyno achos busnes amlinellol newydd i'r Bwrdd ei ystyried.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau)

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y cais i newid.

 

Nodwyd gan y bydd y cais i newid bydd angen i Fenter Môn ddatblygu a chyflwyno achos busnes amlinellol newydd i'r Bwrdd ei ystyried.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Mai 2021, fe wnaeth y Bwrdd Uchelgais gymeradwyo achos busnes amlinellol (OBC) am gyllid o £9m tuag at ddatblygiad Morlais B. Yn sgil cyfuniad o gyfyngiadau ariannu, tynnodd Menter Môn yr OBC yn ôl yn Hydref 2021. Wedi tynnu'r OBC yn ôl, mae Menter Môn wedi paratoi cais i newid yn gofyn am gefnogaeth gan y Bwrdd i gadw'r £9m a glustnodwyd o Raglen Ynni Carbon Isel y Cynllun Twf. Byddai hyn yn galluogi i Fenter Môn ddatblygu a chyflwyno achos busnes amlinellol diwygiedig am brosiect diwygiedig o'r enw Prosiect Cydnerth. Yn unol â phroses rheoli newid Cynllun Twf Gogledd Cymru, mae angen cymeradwyaeth y Bwrdd ar gyfer y cynnig hwn

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cais hwn yn gofyn am newid i brosiect. Eglurwyd mai dyma’r OBC cyntaf a gymeradwywyd gan y Bwrdd ond y bu iddo gael ei dynnu yn ôl yn sgil cyfuniad o gyfyngiadau cyllid WEFO a rheolau cymorth gwladwriaethol. Nodwyd y bu i Menter Mon dderbyn yr arian gan WEFO ar gyfer gallu darparu isadeiledd ar y tir, ond nad oedd arian wedi ei ddiogelu ar gyfer ehangu y cynllun ymhellach. Mynegwyd fod Menter Mon yn cyflwyno cais i’r Bwrdd am gefnogaeth i newid ac i’r £9m gael ei glustnodi gan y rhaglen er mwyn caniatáu i OBC diwygiedig gael ei gyflwyno ganddynt.

 

Nodwyd fod yr OBC gwreiddiol yn cynnwys £9m gan y Cynllun Twf a £25m gan WEFO i gydariannu’r Cynllun ond bellach fod y prosiect yn mynd rhagddi drwy arian WEFO yn unig.

Eglurwyd fod Menter Mon yn gofyn am gefnogaeth y Bwrdd Uchelgais i gadw y £9m sydd wedi ei glustnodi o’r Cynllun Twf er mwyn dileu y rhwystrau canlynol i’r cynllun sef i gysylltu a’r Grid Cenedlaethol a monitro effeithiau amgylcheddol tanforol. Mynegwyd mai enw’r  prosiect diwygied yw Prosiect Cydnerth.

 

Amlygwyd yr amserlen diwygiedig gan nodi eu  bod yn awyddus i gyflwyno yr OBC haf nesaf, ac yna adeiladu a gwariant i gychwyn yn ystod Haf 2024. O ran buddion a allbynnau eu bod yn aros yr un fath â’r prosiect gwreiddiol ond eu bod yn cael ei rhannu rhwng y prosiect a ariennir gan WEFO a Prosiect Cydnerth. Nodwyd fod  llythyr cefnogaeth wedi ei dderbyn mewn egwyddor gan WEFO ym mis Medi. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd ei fod yn gais rhesymol – i barhau i fuddsoddi o fewn y cynllun.

¾     Nodi prosiect wedi bod yn Bwrdd Cefnogi Busnes yn flaenorol a hapus i weld y newid.

¾     Pwysleisiwyd na fydd unrhyw ymrwymiad i arian heddiw tan y bydd Cynllun Busnes wedi ei dderbyn gan y Bwrdd yn y dyfodol.