Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 06/10/2022 - Y Cyngor (eitem 12)

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn yn cynnig fel a ganlyn:-

 

(l)      Cynigiaf fod y Cyngor hwn yn datgan gwrthwynebiad i barhad y teitl ‘Tywysog Cymru’ ac yn gofyn i’r awdurdodau perthnasol ymgynghori’n ffurfiol â phoblogaeth Cymru ar ddiddymu’r teitl ai peidio.

(ll)      Cynigiaf fod y Cyngor yn gwrthwynebu unrhyw arwisgiad rhag cael ei gynnal yng Ngwynedd neu unrhyw le ar diroedd Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(i)        Bod y Cyngor hwn yn datgan gwrthwynebiad i barhad y teitl ‘Tywysog Cymru’ ac yn gofyn i’r awdurdodau perthnasol ymgynghori’n ffurfiol â phoblogaeth Cymru ar ddiddymu’r teitl ai peidio.

(ii)       Bod y Cyngor yn gwrthwynebu unrhyw arwisgiad rhag cael ei gynnal yng Ngwynedd neu unrhyw le ar diroedd Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

(i)         Bod y Cyngor hwn yn datgan gwrthwynebiad i barhad y teitl ‘Tywysog Cymru’ ac yn gofyn i’r awdurdodau perthnasol ymgynghori’n ffurfiol â phoblogaeth Cymru ar ddiddymu’r teitl ai peidio.

(ii)        Bod y Cyngor yn gwrthwynebu unrhyw arwisgiad rhag cael ei gynnal yng Ngwynedd neu unrhyw le ar diroedd Cymru.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig gan nodi:-

 

·         Bod teitl Tywysog Cymru wedi bod yn friw ar ein cenedl ers canrifoedd a’i fod yn ein hatgoffa ein bod ni’n eiddo i’r drefn, yn hytrach na’n ddinasyddion yn ein gwlad.  Nodwyd bod yr amser wedi dod i ni fel cenedl wrthwynebu’r teitl yma, ac i wrthwynebu’r gwerthoedd annemocrataidd mae’r syniad o dywysog Cymru yn ei gynrychioli.

·         Nad oedd yn gweld ei hun fel eiddo’r dywysogaeth, ond yn hytrach yn gyfartal i’w gyd-ddyn.

·         Bod yr ariannu cyhoeddus sy’n mynd at gynnal y Teulu Brenhinol, gan gynnwys swydd Tywysog Cymru, yn wastraffus gan ystyried yr argyfwng costau byw mae’n pobl yn ei ddioddef.

·         Bod rhai aelodau’n cofio arwisgiad 1969, a’r rhwyg cenedlaethol a’r drwg deimlad gododd yn sgil hynny, ond gwaeth fyddai’r drwg deimlad a’r ffraeo fyddai’n codi yn sgil unrhyw arwisgiad heddiw.

·         Bod llawer iawn wedi newid ers 1969, gyda Chymru nawr yn meddu ar Senedd ei hun, gyda’r gwerthoedd democrataidd Cymreig i’w gweld yn tyfu wrth i’n Llywodraeth a’n Senedd ni dderbyn mwy o rym.  Nodwyd bod yr hen drefn o weld Cymru fel tywysogaeth, neu ‘the little principality’ bellach yn rhywbeth sy’n perthyn i’r mileniwm diwethaf, a’i bod yn bryd i ni symud ymlaen yn rhydd o’r hen deitl yma sy’n peri cymaint o warth i ni.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig.

 

Nododd aelod y byddai’n atal ei bleidlais ar y mater ar y sail:-

 

·         Nad oedd yn gweld bod y cynnig o bwys mawr i’n cenedl yn y sefyllfa sydd ohoni ar hyn o bryd, ac mai’r ffordd orau o gyfarch yr argyfwng costau ynni, ac unrhyw argyfwng arall fydd yn ein hwynebu, yw drwy sicrhau annibyniaeth i Gymru.

·         Bod yna amryw o bobl sydd o blaid annibyniaeth hefyd o blaid y Teulu Brenhinol.

·         Bod 54 gwlad yn rhan o’r Gymanwlad, ac y dymunai i Gymru fod yn o’r rheini hefyd.

 

Cefnogwyd y cynnig gan nifer o aelodau ar y sail:-

 

·         Mai nod amgen ceidwadaeth wleidyddol ydi parch at hierarchaeth ac awdurdod, a bod unrhyw un sydd am weld cymdeithas lle mae pawb yn gyfartal yn ymwrthod â’r syniad o frenhiniaeth, oherwydd bod y syniad o frenhiniaeth ynddo’i hun yn gosod anghydraddoldeb wrth galon ein sefydliad gwleidyddol ni.

·         Bod brenhiniaeth yn gosod seilwaith o anghydraddoldeb ac yn anghydnaws â’r oes sydd ohoni a bod sawl gwlad arall ar draws y byd wedi ymwrthod â’r cysyniad yn llwyr.

·         Bod y penderfyniad i roi’r teitl i’r Tywysog William wedi’i wneud heb ymgynghori â Llywodraeth Cymru.

·         Ei bod yn bwysig clywed llais dinasyddion Cymru ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12