Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 06/10/2022 - Y Cyngor (eitem 10)

10 PENDERFYNIAD BRYS CABINET pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, er gwybodaeth, ar benderfyniad brys gan y Cabinet ar 27 Medi, 2022 i gymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer newidiadau posib’ i’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi a thai gwag.  Eglurwyd, oherwydd effaith gohirio cyfarfod 13 Medi o’r Cabinet yn sgil marwolaeth y Frenhines, y byddai gweithredu’r cyfnod galw i mewn ar gyfer penderfyniadau wedi golygu y byddai dyddiad cychwyn y cyfnod ymgynghori wedi llithro’n sylweddol.  Gan hynny, bu’n ofynnol gwneud penderfyniad brys yn unol â Rhan 7.25.2 o’r Cyfansoddiad i eithrio’r mater o’r drefn galw i mewn i graffu er sicrhau bod y Cyngor yn medru cychwyn ar y broses ymgynghori yn amserol.

 

Mewn ymateb i gais gan aelod, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod copïau papur o’r pecyn ymgynghoriad Premiwm Treth Cyngor ar gael drwy ffonio’r Adran Gyllid.

 

Holwyd beth fyddai sefyllfa aelodau sy’n ymateb i’r ymgynghoriad, gan y byddent wedi mynegi barn ar y mater cyn i’r Cyngor llawn ei drafod ym mis Rhagfyr.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro na ddymunid agor trafodaeth ar y Premiwm yn y cyfarfod hwn, ond y gallai’r aelod gysylltu ag ef yn uniongyrchol i gael cyngor ar hynny.  Ychwanegodd nad trafod y Premiwm oedd pwrpas yr eitem oedd gerbron, eithr eitem dechnegol ydoedd, yn adrodd ar drefn a ddilynwyd ar gyfer y penderfyniad.

 

Mynegodd aelod ei anfodlonrwydd gyda’r broses ar y sail bod y Cabinet wedi gofyn am yr hawl i fwrw ymlaen â mater na chafodd yr holl aelodau gyfle i’r drafod.  Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog Monitro y drefn unwaith yn rhagor, gan nodi mai’r Cyngor llawn fyddai’n dod i benderfyniad ar y mater maes o law, ond mai rôl y Cabinet oedd gwneud y penderfyniad cychwynnol i gynnal ymgynghoriad er mwyn sicrhau priodoldeb y drefn a gwneud yn siwr na fyddai’n agored i her.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.