10 PENDERFYNIAD BRYS CABINET PDF 215 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad, er gwybodaeth, ar benderfyniad brys gan y Cabinet ar
27 Medi, 2022 i gymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer newidiadau
posib’ i’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi a thai gwag. Eglurwyd, oherwydd effaith gohirio cyfarfod
13 Medi o’r Cabinet yn sgil marwolaeth y Frenhines, y byddai gweithredu’r
cyfnod galw i mewn ar gyfer penderfyniadau wedi golygu y byddai dyddiad cychwyn
y cyfnod ymgynghori wedi llithro’n sylweddol.
Gan hynny, bu’n ofynnol gwneud penderfyniad brys yn unol â Rhan 7.25.2
o’r Cyfansoddiad i eithrio’r mater o’r drefn galw i mewn i graffu er sicrhau
bod y Cyngor yn medru cychwyn ar y broses ymgynghori yn amserol.
Mewn ymateb i gais gan aelod, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod copïau
papur o’r pecyn ymgynghoriad Premiwm Treth Cyngor ar gael drwy ffonio’r Adran
Gyllid.
Holwyd beth fyddai sefyllfa aelodau sy’n ymateb i’r ymgynghoriad, gan y
byddent wedi mynegi barn ar y mater cyn i’r Cyngor llawn ei drafod ym mis
Rhagfyr. Mewn ymateb, nododd y Swyddog
Monitro na ddymunid agor trafodaeth ar y Premiwm yn y cyfarfod hwn, ond y
gallai’r aelod gysylltu ag ef yn uniongyrchol i gael cyngor ar hynny. Ychwanegodd nad trafod y Premiwm oedd pwrpas
yr eitem oedd gerbron, eithr eitem dechnegol ydoedd, yn adrodd ar drefn a
ddilynwyd ar gyfer y penderfyniad.
Mynegodd aelod ei anfodlonrwydd gyda’r broses ar y sail bod y Cabinet
wedi gofyn am yr hawl i fwrw ymlaen â mater na chafodd yr holl aelodau gyfle
i’r drafod. Mewn ymateb, esboniodd y
Swyddog Monitro y drefn unwaith yn rhagor, gan nodi mai’r Cyngor llawn fyddai’n
dod i benderfyniad ar y mater maes o law, ond mai rôl y Cabinet oedd gwneud y
penderfyniad cychwynnol i gynnal ymgynghoriad er mwyn sicrhau priodoldeb y
drefn a gwneud yn siwr na fyddai’n agored i her.
PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r
adroddiad.