6 RHEOLAU SEFYDLOG A CHYFANSODDIAD PDF 351 KB
Iwan G D
Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Cytunwyd
i fabwysiadu
a) Rheolau
Sefydlog ar gyfer Is Bwyllgorau
b) Cylch
Gorchwyl ar gyfer yr Is Bwyllgorau canlynol;
·
Trafnidiaeth Strategol
·
Cynllunio Strategol
·
Llywodraethu ac Archwilio.
2. Dirprwyo
hawl i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad a’r Swyddog Monitro i gwblhau
cytundebau cyfethol gyda aelodau yr Is Bwyllgorau Trafnidiaeth a Chynllunio
Strategol a threfnu drwy'r Swyddog Priodol i alw cyfarfod cychwynnol o’r Is
Bwyllgorau.
3. Cytuno
ar yr egwyddorion penodi aelodau i’r Is Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac
awdurdodi y Prif Weithredwr i gynnal proses ceisio datganiadau o ddiddordeb gan
adrodd i gyfarfod Rhagfyr y CBC ar gyfer penodi.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Iwan G Evans (Swyddog Monitro).
PENDERFYNIAD
1.
Cytunwyd i fabwysiadu
a.
Rheolau Sefydlog ar
gyfer Is Bwyllgorau
b.
Cylch Gorchwyl ar gyfer
yr Is Bwyllgorau canlynol;
·
Trafnidiaeth Strategol
·
Cynllunio Strategol
·
Llywodraethu ac
Archwilio.
2.
Dirprwyo hawl i’r Prif
Weithredwr mewn ymgynghoriad a’r Swyddog Monitro i gwblhau cytundebau cyfethol
gyda aelodau yr Is Bwyllgorau Trafnidiaeth a Chynllunio Strategol a threfnu
drwy'r Swyddog Priodol i alw cyfarfod cychwynnol o’r Is Bwyllgorau.
3.
Cytuno ar yr
egwyddorion penodi aelodau i’r Is Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac
awdurdodi y Prif Weithredwr i gynnal proses ceisio datganiadau o ddiddordeb gan
adrodd i gyfarfod Rhagfyr y CBC ar gyfer penodi.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod
yr adroddiad hwn yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd yn ôl ym mis Mehefin.
Eglurwyd fod haner cyntaf yr adroddiad yn nodi mabwysiadu y Rheolau
Sefydlog a Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is-Bwyllgorau.
Eglurwyd mai dim ond tri o’r is-bwyllgorau sydd yn cael ei amlygu yma gan
fod y Swyddog Statudol
yn parhau i ddisgwyl y rheoliadau ar gyfer y Pwyllgor Safonau.
Nodwyd yn ogystal ei bod yn gyn-amserol
i drafod y Bwrdd Uchelgais.
Mynegwyd
fod ail agwedd y
penderfyniad am cyfethol i’r Is-Bwyllgorau. Nodwyd yn unol ar ddeddf fod angen
creu a cwblhau cytundebau
cyfethol gyda aelodau’r Is-Bwyllgorau Trefniadaeth
a Chynllunio Statudol
er mwyn
eu hymrwymo i fod yn aelodau cyn galw cyfarfod. Amlygwyd yr angen i sefydlu
calendr
is-bwyllgorau Trafnidiaeth Strategol a
Chynllunio Strategol.
Nodwyd
fod y rheoliadau yn nodi’r angen i’r Cyd-Bwyllgor fod yn creu Is-Fwrdd Llywodraethu
ac Archwilio. Eglurwyd
yr angen i symud ymlaen i’w sefydlu ac fod yr aelodaeth fel Awdurdodau Lleol yn
1 traean yn aelodau lleyg ac dwy ran o
dair yn Cynghorwyd. Mynegwyd o ran argymhelliad y gweithdrefn
fod yr aelodaeth yn dod o blith pwyllgorau Llywodraethu
ac Archwilio y Cynghorau
gan ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb o blith yr aelodau lleyg. Esboniwyd y
bydd angen i’r enwebiadau fod yn gynrychiolaeth ar draws y rhanbarth gyda
balans o sgiliau. Credai’r Swyddog Monitro mai dyma’r ffordd mwyaf pragmataidd
o sicrhau’r aelodaeth.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Nodwyd fod niferoedd ar
gyfer Pwyllgor Archwilio
yn 9 aelod, 6 wedi ei ethol a 3 aelod lleyg
a beth oedd y drefn ar gyfer hyn Eglurwyd
fy bydd angen gofyn am enwebiadau
ar gyfer yr aelodau lleyg a bydd angen
proses dewis drwy’r Cyd-Bwyllgor gan sicrhau
traws
doriad
a balans.