7 SECONDIAD I RÔL PRIF WEITHREDWR Y CBC PDF 77 KB
Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr y CBC a Dafydd
Edwards, Swyddog Arweiniol Prosiect y CBC i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Cytunwyd i benodi Alwen Williams yn Brif Weithredwr
rhan-amser y CBC, ar sail secondiad dros dro, hyd nes caiff y swydd ei hadolygu
eto gan y CBC cyn diwedd y flwyddyn ariannol 2022/23.
Dirprwyo’r grym i Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd gadarnhau
trefniadau ffurfiol ar gyfer y secondiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Dafydd Gibbard
(Prif
weithredwr y CBC).
PENDERFYNIAD
Cytunwyd
i benodi Alwen Williams yn Brif Weithredwr rhan-amser y CBC, ar sail secondiad
dros dro, hyd nes caiff y swydd ei hadolygu eto gan y CBC cyn diwedd y flwyddyn
ariannol 2022/23.
Dirprwyo’r
grym i Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd gadarnhau trefniadau ffurfiol ar gyfer y
secondiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr eitem
hon wedi ei thrafod yn ôl ym mis Gorffennaf, pan gytunwyd i wneud
cais i’r Bwrdd Uchelgais i ryddhau Alwen Williams i fod yn Brif Weithredwr
rhan-amser tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd fod yr
eitem wedi ei thrafod yn y Bwrdd Uchelgais wythnos diwethaf ac wedi cefnogi’r
cais i’w secondio ar sail rhan amser gan ryddhau ei
hamser
am ddau ddiwrnod yr wythnos.
Eglurwyd
fod yr adroddiad hwn yn cadarnhau
penodiad Alwen Williams gan egluro y bydd papur
am y swydd i’r dyfodol yn cael ei gyflwyno
i’r Cyd-Bwyllgor yn fuan.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Nodwyd
o ran geiriad y penderfyniad fod angen ei addasu i nodi fod y
swydd yn cael ei hadolygu cyn diwedd y flwyddyn ariannol gan roedd
y geriad
gwreiddiol yn awgrymu na
fyddai
trafodaeth tan ddiwedd Mawrth 2023.
·
Holwyd pam fod angen
dirprwyo’r hawl i Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd i gadarnhau’r
trefniadau ffurfiol ar gyfer y secondiad, oni ddylai’r penderfyniad ar y
secondiad ddod yn ôl at y Cyd-Bwyllgor. Eglurwyd mai’r elfen Adnoddau Dynol yn
unig sydd yn cael ei wneud i sicrhau cyflogaeth,
gan mai Cyngor Gwynedd fel corff arweiniol yw’r cyflogwr
cyfreithiol. Pwysleisiwyd
mai dim ond awdurdodi elfen weinyddol o gyflogaeth
mae’r
Prif Weithredwr i gadarnhau
fod Alwen Williams yn cael ei phenodi,
a nid yw’n ymrwymo’r
Cyd-Bwyllgor heibio mis Mawrth 2023.
·
Mynegwyd fod
penderfyniad hwn yn trio dod o hyd i ddatrysiad i broblem
ac ei fod yn ateb pragmatiadd
i allu symud ymlaen a dechrau ar y gwaith.
Dechreuodd
y cyfarfod am 12:00pm
a
daeth i
ben am
12:35pm.
___________________________________
CADEIRYDD