Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 07/10/2022 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd (eitem 7)

7 SECONDIAD I RÔL PRIF WEITHREDWR Y CBC pdf eicon PDF 77 KB

Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr y CBC a Dafydd Edwards, Swyddog Arweiniol Prosiect y CBC i gyflwyno’r adroddiad.  

Penderfyniad:

Cytunwyd i benodi Alwen Williams yn Brif Weithredwr rhan-amser y CBC, ar sail secondiad dros dro, hyd nes caiff y swydd ei hadolygu eto gan y CBC cyn diwedd y flwyddyn ariannol 2022/23.

 

Dirprwyo’r grym i Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd gadarnhau trefniadau ffurfiol ar gyfer y secondiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Gibbard (Prif weithredwr y CBC). 

 

PENDERFYNIAD 

 

Cytunwyd i benodi Alwen Williams yn Brif Weithredwr rhan-amser y CBC, ar sail secondiad dros dro, hyd nes caiff y swydd ei hadolygu eto gan y CBC cyn diwedd y flwyddyn ariannol 2022/23.  

 

Dirprwyo’r grym i Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd gadarnhau trefniadau ffurfiol ar gyfer y secondiad. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr eitem hon wedi ei thrafod yn ôl ym mis Gorffennaf, pan gytunwyd i wneud cais i’r Bwrdd Uchelgais i ryddhau Alwen Williams i fod yn Brif Weithredwr rhan-amser tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd fod yr eitem wedi ei thrafod yn y Bwrdd Uchelgais wythnos diwethaf ac wedi cefnogi’r cais i’w secondio ar sail rhan amser gan ryddhau ei hamser am ddau ddiwrnod yr wythnos.  

 

Eglurwyd fod yr adroddiad hwn yn cadarnhau penodiad Alwen Williams gan egluro y bydd papur am y swydd i’r dyfodol yn cael ei gyflwyno i’r Cyd-Bwyllgor yn fuan.   

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                 Nodwyd o ran geiriad y penderfyniad fod angen ei addasu i nodi fod y swydd yn cael ei hadolygu cyn diwedd y flwyddyn ariannol gan roedd y geriad gwreiddiol yn awgrymu na fyddai trafodaeth tan ddiwedd Mawrth 2023.  

·                Holwyd pam fod angen dirprwyo’r hawl i Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd i gadarnhau’r trefniadau ffurfiol ar gyfer y secondiad, oni ddylai’r penderfyniad ar y secondiad ddod yn ôl at y Cyd-Bwyllgor. Eglurwyd mai’r elfen Adnoddau Dynol yn unig sydd yn cael ei wneud i sicrhau cyflogaeth, gan mai Cyngor Gwynedd fel corff arweiniol yw’r cyflogwr cyfreithiol. Pwysleisiwyd mai dim ond awdurdodi elfen weinyddol o gyflogaeth mae’r Prif Weithredwr i gadarnhau fod Alwen Williams yn cael ei phenodi, a nid yw’n ymrwymo’r Cyd-Bwyllgor heibio mis Mawrth 2023 

·                Mynegwyd fod penderfyniad hwn yn trio dod o hyd i ddatrysiad i broblem ac ei fod yn ateb pragmatiadd i allu symud ymlaen a dechrau ar y gwaith.  

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 12:00pm a daeth i ben am 12:35pm. 

 

 

 

 

___________________________________

CADEIRYDD