7 MABWYSIADU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY PDF 250 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.
Dirprwyo’r hawl i
Bennaeth Adran Amgylchedd i wneud addasiadau ansylweddol i’r ddogfen cyn ei
chyhoeddi.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNIAD
Mabwysiadu y
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.
Dirprwyo’r
hawl i Bennaeth Adran Amgylchedd i wneud addasiadau ansylweddol i’r ddogfen cyn
ei chyhoeddi.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Eglurwyd fod Deddf Cefn Gwlad a Hawliau
Tramwy 2000 yn amlygu dyletswydd ar y Cyngor i fod yn cyhoeddi ac yn adolygu
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy. Ychwanegwyd fod y cynllun hwn yn cael ei
ddefnyddio fel arf i wella'r rhwydwaith yn ogystal. Mynegwyd fod y Cynllun wedi
bod ar dipyn o daith cyn cyrraedd y Cabinet a oedd yn cynnwys Pwyllgor Craffu
yn ôl yn 2021, ymgynghoriad cyhoeddus am 3 mis dros gyfnod yr haf cyn adrodd yn
ôl i’r Pwyllgor Craffu ym mis Hydref i drafod canlyniadau’r ymgynghoriad
cyhoeddus. Atebwyd fod man addasiadau wedi ei gwneud i’r Cynllun yn dilyn y
Pwyllgor Craffu.
Nodwyd mai
gofyn sydd yma i fabwysiadu’r Cynllun ac i roi hawl i’r Pennaeth Adran wneud
man addasiadau ieithyddol cyn i’r ddogfen gael ei chyhoeddi.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Diolchwyd am yr adroddiad a codwyd
pryder am y newid i roi hawl i farchogaeth ar bob llwybr cyhoeddus. Holwyd am
sut y bydd asesiadau risg yn cael ei gwneud yn benodol ar lwybrau sydd ar ochor
ffordd. Nodwyd fod yr addasiad wedi ei wneud o ganlyniad i anghysondeb ar draws
y sir ac fod gofyn rhesymol wedi bod i gael ei ddefnyddio gan geffylau,
eglurwyd y bydd asesiadau risg yn cael eu cynnal a bod yr addasiad yn benodol
ar gyfer llwybrau oddi wrth y ffordd fawr.
·
Holwyd am y broses o adnabod Llwybrau
Llesiant y sir gan nad yw Bala wedi’i gynnwys. Eglurwyd fod amodau penodol i’w
gweld sydd yn cael ei
gwrio gan Lywodraeth Cymru o ran Llwybrau Llesiant ac
yn
ffafrio canolfannau ble mae’r boblogaeth yn gweithio yn yr ardal ac angen
ffordd amgen o gyrraedd y gwaith. Mynegwyd o ganlyniad fod angen bosib adolygu
hyn er mwyn cynnwys cymunedau fwy gwledig.
Awdur: Dafydd Wyn Williams