Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/11/2022 - Y Cabinet (eitem 7)

7 MABWYSIADU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY pdf eicon PDF 250 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.

 

Dirprwyo’r  hawl i Bennaeth Adran Amgylchedd i wneud addasiadau ansylweddol i’r ddogfen cyn ei chyhoeddi.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig 

 

PENDERFYNIAD 

 

Mabwysiadu y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.   

 

Dirprwyo’r  hawl i Bennaeth Adran Amgylchedd i wneud addasiadau ansylweddol i’r ddogfen cyn ei chyhoeddi.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Eglurwyd fod Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn amlygu dyletswydd ar y Cyngor i fod yn cyhoeddi ac yn adolygu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy. Ychwanegwyd fod y cynllun hwn yn cael ei ddefnyddio fel arf i wella'r rhwydwaith yn ogystal. Mynegwyd fod y Cynllun wedi bod ar dipyn o daith cyn cyrraedd y Cabinet a oedd yn cynnwys Pwyllgor Craffu yn ôl yn 2021, ymgynghoriad cyhoeddus am 3 mis dros gyfnod yr haf cyn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Craffu ym mis Hydref i drafod canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus. Atebwyd fod man addasiadau wedi ei gwneud i’r Cynllun yn dilyn y Pwyllgor Craffu.  

 

Nodwyd mai gofyn sydd yma i fabwysiadu’r Cynllun ac i roi hawl i’r Pennaeth Adran wneud man addasiadau ieithyddol cyn i’r ddogfen gael ei chyhoeddi.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Diolchwyd am yr adroddiad a codwyd pryder am y newid i roi hawl i farchogaeth ar bob llwybr cyhoeddus. Holwyd am sut y bydd asesiadau risg yn cael ei gwneud yn benodol ar lwybrau sydd ar ochor ffordd. Nodwyd fod yr addasiad wedi ei wneud o ganlyniad i anghysondeb ar draws y sir ac fod gofyn rhesymol wedi bod i gael ei ddefnyddio gan geffylau, eglurwyd y bydd asesiadau risg yn cael eu cynnal a bod yr addasiad yn benodol ar gyfer llwybrau oddi wrth y ffordd fawr.  

·                  Holwyd am y broses o adnabod Llwybrau Llesiant y sir gan nad yw Bala wedi’i gynnwys. Eglurwyd fod amodau penodol i’w gweld sydd yn cael ei gwrio gan Lywodraeth Cymru o ran Llwybrau Llesiant ac yn ffafrio canolfannau ble mae’r boblogaeth yn gweithio yn yr ardal ac angen ffordd amgen o gyrraedd y gwaith. Mynegwyd o ganlyniad fod angen bosib adolygu hyn er mwyn cynnwys cymunedau fwy gwledig.  

 

Awdur: Dafydd Wyn Williams