Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/11/2022 - Y Cabinet (eitem 8)

8 GWEDD 4 RHAGLEN FUDDSODDI MEWN PANELI SOLAR pdf eicon PDF 407 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ap Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bwrw  ‘mlaen i fuddsoddi £2.8m yn y pedwerydd wedd o’r cynllun paneli PV cynhyrchu trydan gan arwain at arbediad refeniw blynyddol.

 

Ariannu’r buddsoddiad cyfalaf o gronfeydd y Cyngor gan arwain at arbedion refeniw parhaol yn syth fel cyfraniad i’n cynllun arbedion / toriadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago   

 

PENDERFYNIAD 

 

Bwrw  ‘mlaen i fuddsoddi £2.8m yn y bedwaredd wedd o’r cynllun paneli PV cynhyrchu trydan gan arwain at arbediad refeniw blynyddol.   

 

Ariannu’r buddsoddiad cyfalaf o gronfeydd y Cyngor gan arwain at arbedion refeniw parhaol yn syth fel cyfraniad i’n cynllun arbedion / toriadau.   

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor yn arwain yng Nghymru ac o bosib Prydain am y camau mae’n ei wneud i leihau ôl troed carbon. Eglurwyd fod camau yn cael ei gwneud ar draws y Cyngor i wneud y newidiadau pwysig yma er mwyn edrych ar ôl yr amgylchedd ac yn ogystal er mwyn arbed arian.  

 

Mynegodd y Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Masnachol mai dyma bedwaredd wedd y Cynllun Solar sydd wedi bod yn gynllun hynod lwyddiannus. Eglurwyd fod gwedd 3 wedi dod i ben o ganlyniad i newid gan y Llywodraeth ond o ganlyniad i leihad mewn costau paneli solar a chynnydd mewn costau ynni mae hyn wedi arwain at greu gwedd 4. Pwysleisiwyd fod y Cynllun wedi ei sefydlu ar gostau ynni heddiw, ac felly os costau ynni yn parhau i godi mae’n amlygu fod yr achos busnes ar ei gyfer yn aeddfed.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                Diolchwyd am yr adroddiad, a holwyd os mai gwedd 4 fydd y cam olaf. Eglurwyd mai dyma fydd y cam olaf o safbwynt adeiladau’r Cyngor ond fod opsiynau pellach yn bodoli yn dilyn hyn megis Ffermydd Solar.    

·                Amlygwyd fod y cynllun hwn yn un sydd yn lleihau carbon ac yn cynorthwyo’r Cyngor gyda cyfarch y bwlch ariannol. Mynegwyd fod gofyn yma i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor i’w ariannu fod bod modd derbyn yr arbedion ariannol o ganlyniad i’r Cynllun yn syth.  

 

Awdur: David Mark Lewis