9 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2021 - HUNANASESIAD CYNGOR GWYNEDD (DRAFFT) 2021/22 PDF 297 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd Hunanasesiad Cyngor Gwynedd (Drafft) 2021/22 gan dderbyn argymhellion a wnaethpwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd
Hunanasesiad Cyngor Gwynedd (Drafft) 2021/22 gan dderbyn argymhellion a
wnaethpwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac argymell i’r Cyngor
Llawn ei fod yn ei fabwysiadu.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai dyma’r Hunanasesiad cyntaf i’r Cyngor ei wneud sydd yn
edrych yn ôl ar 2021/22. Eglurwyd fod gofyn statudol newydd o dan Ddeddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn nodi’r angen i’w greu a’i
gyhoeddi yn flynyddol. Ychwanegwyd fod yr hunanasesiad yn tynnu ar dipyn o
ffynonellau gwybodaeth a thystiolaeth a bod nifer o’r wybodaeth wedi ei
gyhoeddi yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ac yn Adroddiad Blynyddol
Gwasanaethau Cymdeithasol. Pwysleisiwyd er mwyn cadw’r adroddiad yn gryno fod
cyfeiriad at y dogfennau yma.
Nodwyd fod y
ddeddf yn nodi disgwyliad i gyflwyno drafft o’r Hunanasesiad i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio er mwyn derbyn sylwadau. Mynegwyd fod hyn wedi
digwydd wythnos diwethaf ac fod un sylw wedi ei dderbyn sef yr angen i gyfeirio
ar yr hyfforddiant sydd ar gael i Gynghorwyd o dan
Cynllunio Corfforaethol er mwyn adnabod y gwaith da sy’n digwydd o fewn y
Cyngor.
Eglurwyd mai
dyma’r tro cyntaf i gyflwyno’r Hunanasesiad ac mae ymdrech wedi ei wneud i’w
gadw yn gryno ac yn ddarllenadwy. Esboniwyd fod trefniadau yn parhau i
ddatblygu o ran ei baratoi ac fod trefniadau i’r dyfodol i’w gyfuno gyda
threfniadau herio perfformiad ac i’w gynnwys yn Adroddiad Perfformiad Blynyddol
y Cyngor.
Ychwanegodd y
Swyddog Monitro fod hon yn drefn newydd ac fod gofyn statudol i fynd i
ymgynghoriad ar y drefn ond fod hynny i ddod.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Mynegwyd fod y bwriad i’w gyfuno â’r
Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn gyfle
i ychwanegu haen arall o lywodraethant
o fewn y Cyngor. Fod Cynllun y Cyngor yn dangos beth mae’r Cyngor am ei wneud,
Adroddiad Perfformiad yn nodi beth sydd wedi ei wneud ac fod hwn fel haen
yn
y canol yn amlygu pa mor dda mae’r Cyngor wneud
gwneud y gwaith.
Awdur: Dewi Wyn Jones