10 CYNLLUN DEISEBAU PDF 203 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd y Cynllun Deisebau ac argymell i’r Cyngor Llawn
ei fabwysiadu.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd y
Cynllun Deisebau ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gofyn i gymeradwyo’r Cynllun Deisebau
a'i argymell i’r Cyngor Llawn nesaf i’w fabwysiadu. Eglurwyd fod gofyniad
statudol yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 i’r Cyngor fod yn
mabwysiadu Cynllun Deisebau. Mynegwyd fod y Cynllun yn nodi sut y bydd y Cyngor
yn ymdrin â deisebau pan yn eu derbyn.
Nodwyd fod
deiseb yn ffordd y gall unigolion, grŵp cymunedol a sefydliadau godi
materion sy’n peri pryder iddynt a rhoi cyfle i Gynghorwyr ystyried yr angen am
newid. Ychwanegwyd fod y cynllun yn gosod camau ar sut i gyflwyno deiseb a’r
hyn y gellir ei ddisgwyl fel ymateb a’r camau fydd yn cael ei wneud gan y
Cyngor. Pwysleisiwyd fod rhai achosion megis ail strwythuro ysgolion yn dilyn
gofynion cyfreithiol a statudol am ymgynghori a chyfnodau ymateb statudol a ni
fydd deiseb yn cael ei dderbyn tu allan i’r trefniadau hyn.
Amlygwyd fod y
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth wedi trafod y Cynllun
wythnos diwethaf, a derbyniwyd sylwadau ac mae man addasiadau wedi eu gwneud
i’r Cynllun yn dilyn y trafodaethau yma.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Holwyd os yn derbyn y ddeiseb bod modd
cael ei drafod gan Aelod Cabinet, y Cabinet neu Cyngor Llawn a holwyd pwy sy’n
dewis lefel y penderfyniad. Eglurwyd ei fod yn ddibynnol ar natur y ddeiseb ac
ei fod yn dilyn trywydd synhwyrol.
·
Cwestiynwyd os yw’r cynllun yn wahanol i
beth sydd yn digwydd yn bresennol Eglurwyd fod y Cynllun hwn yn ffurfioli'r
trefniadau ac yn codi ymwybyddiaeth trigolion.
·
Nodwyd fod yn braf gweld y Cabinet yn
gallu ymlacio wrth drafod gofynion y Ddeddf ac fod hyn o ganlyniad i drefniadau
llywodraethu
cadarn
iawn
sydd
i’w weld mewn nifer o dimau sydd yn gweithio yn y cefndir ar
draws y Cyngor.
Awdur: Annes Sion