Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/11/2022 - Y Cabinet (eitem 13)

13 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS BLANT A CEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 318 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad ar waith yr adran gan amlinellu beth sydd wedi digwydd yn erbyn addewidion Cynllun y Cyngor, adrodd ar berfformiad yr adran ynghyd a’r sefyllfa ariannol. Diolchwyd i staff yr adran am eu hymroddiad i blant a phobl ifanc yn sir.  

 

Eglurwyd fod prosiectau blaenoriaeth yn parhau i symud yn eu blaen er fod staff wedi eu dargyfeirio i gefnogi unigolion o’r Wcrain. Eglurwyd fod y blaenoriaethau yn cyd-fynd a prif risgiau’r adran a nodwyd fod cynnydd yn cael ei wneud yn erbyn y prosiectau hyn. Tywyswyd drwy’r prosiectau a oedd yn cynnwys nodi fod Strategaeth Cadw Teuluoedd gyda’i Gilydd wedi derbyn cadarnhad o ran ei ariannu ac yn gallu symud ymlaen gyda’r gwaith. Mynegwyd fod yr adran wedi llwyddo i recriwtio i swyddi yn y tîm cyfeiriadau er mwyn ymateb i'r cynnydd sydd wedi bod mewn galwadau a rhestrau aros.   

 

O ran y Cynllun Cefnogi Pobl nodwyd fod gwaith yn parhau ond bellach yn canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw. Amlygwyd gwaith y Cynllun a oedd yn cynnwys, ymestyn y rhwydwaith hybiau a chyfres o ddigwyddiadau galw heibio.  

 

Nodwyd fod capasiti gweithlu yn broblem o fewn yr adran hon yn ogystal, ac fod gwaith diweddar wedi ei wneud gydag ymgynghorydd annibynnol ond nad oedd canlyniad i'w gweld eto. Eglurwyd fod newid wedi bod yn natur yr achosion sydd yn cyrraedd yr adran gydag anghenion plant yn dwysáu ac o ganlyniad angen pecynnau gofal fwy cymhleth.  

 

Eglurwyd fod rhagolygon yn amlygu y fod yr adran yn debygol o orwario o oddeutu £88,000. Mynegwyd fod yr adran wedi rhoi cais am dros £1m o fidiau  er mwyn cwrdd â phwysau ychwanegol ac i gyflawni cynlluniau blaenoriaeth.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                Holwyd o ran y Cynllun Cefnogi Pobl beth yw’r ymateb sydd wedi ei dderbyn gan y cyhoedd. Eglurwyd ei fod wedi bod yn amrywiol gyda llawer yn gwerthfawrogi'r cymorth sydd ar gael.  

 

Awdur: Marian Parry Hughes