13 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS BLANT A CEFNOGI TEULUOEDD PDF 318 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad ar waith yr adran gan amlinellu
beth sydd wedi digwydd yn erbyn addewidion Cynllun y Cyngor, adrodd ar
berfformiad yr adran ynghyd a’r sefyllfa ariannol. Diolchwyd i staff yr adran
am eu hymroddiad i blant a phobl ifanc yn sir.
Eglurwyd fod
prosiectau blaenoriaeth yn parhau i symud yn eu blaen er fod staff wedi eu
dargyfeirio i gefnogi unigolion o’r Wcrain. Eglurwyd fod y blaenoriaethau yn
cyd-fynd a prif risgiau’r adran a nodwyd fod cynnydd yn cael ei wneud yn erbyn
y prosiectau hyn. Tywyswyd drwy’r prosiectau a oedd yn cynnwys nodi fod
Strategaeth Cadw Teuluoedd gyda’i Gilydd wedi derbyn cadarnhad o ran ei ariannu
ac yn gallu symud ymlaen gyda’r gwaith. Mynegwyd fod yr adran wedi llwyddo i
recriwtio i swyddi yn y tîm cyfeiriadau er mwyn ymateb i'r cynnydd sydd wedi
bod mewn galwadau a rhestrau aros.
O ran y
Cynllun Cefnogi Pobl nodwyd fod gwaith yn parhau ond bellach yn canolbwyntio ar
yr argyfwng costau byw. Amlygwyd gwaith y Cynllun a oedd yn cynnwys, ymestyn y
rhwydwaith hybiau a chyfres o ddigwyddiadau galw heibio.
Nodwyd fod capasiti
gweithlu yn broblem o fewn yr adran hon yn ogystal, ac fod gwaith diweddar wedi
ei wneud gydag ymgynghorydd annibynnol ond nad oedd canlyniad i'w gweld eto.
Eglurwyd fod newid wedi bod yn natur yr achosion sydd yn cyrraedd yr adran
gydag anghenion plant yn dwysáu ac o ganlyniad angen pecynnau gofal fwy
cymhleth.
Eglurwyd fod
rhagolygon yn amlygu y fod yr adran yn debygol o orwario o oddeutu £88,000.
Mynegwyd fod yr adran wedi rhoi cais am dros £1m o fidiau er mwyn cwrdd â
phwysau ychwanegol ac i gyflawni cynlluniau blaenoriaeth.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Holwyd o ran y Cynllun Cefnogi Pobl beth
yw’r ymateb sydd wedi ei dderbyn gan y cyhoedd. Eglurwyd ei fod wedi bod yn
amrywiol gyda llawer yn gwerthfawrogi'r cymorth sydd ar gael.
Awdur: Marian Parry Hughes