Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i gymeradwyo drafft o
Brotocol Dyletswydd Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol a’r Pwyllgor Safonau.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Awgrymwyd
y dylid cryfhau ail bwynt bwled Camau Gweithredu’r Protocol i nodi ‘Mae
disgwyl i aelodau’r grŵp fynychu cyfleoedd datblygu neu hyfforddiant
perthnasol ...’ yn hytrach na’u bod yn cael eu ‘Annog’ i wneud hynny,
fel bod dyletswydd wedyn ar yr arweinyddion grwpiau i wneud hynny’n
flaenoriaeth. Mewn ymateb, nododd y
Swyddog Monitro fod hyn wedi codi yn y trafodaethau gyda’r Arweinyddion
Grwpiau, ac mai’r arweiniad statudol oedd yn awgrymu ‘annog’. Roedd y gweithredu yn cyfeirio at weithio
gyda’r Swyddog Monitro i drefnu fod pob aelod Grŵp wedi mynychu
hyfforddiant Cod Ymddygiad ar gychwyn tymor.
Ni chredid bod y pŵer gorfodaeth gan yr Arweinyddion Grwpiau, ac
awgrymwyd bod y cysyniad o gydweithio yn ffordd fwy ymarferol ac adeiladol o
gael y maen i’r wal.
·
Nodwyd
y gallai fod yn fwy anodd i Arweinydd Grŵp Annibynnol gadw trefn, gan nad
oes ganddynt rym plaid wleidyddol y tu cefn iddynt. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro fod hyn
yn ofyn statudol bellach, ond ei fod yn gyfrwng i weithio gydag Arweinyddion i
hyrwyddo safonau da, cyfleu negeseuon allweddol a datrys problemau drwy drafod,
ac ynghynt, cyn iddynt ddwyshau.
·
Gan
gyfeirio at yr argymhelliad i gyflwyno adroddiad pellach ar weithrediad y
Protocol i gyfarfod Mehefin o’r Pwyllgor Safonau, nodwyd y dymunid cael
cadarnhad y bydd y 3 Arweinydd Grŵp wedi arwyddo’r Protocol erbyn
hynny. Mewn ymateb, nododd y Swyddog
Monitro mai’r bwriad oedd cymeradwyo’r Protocol rŵan a chael yr
Arweinyddion i’w arwyddo.
·
Nodwyd
ei bod yn anodd i’r Pwyllgor Safonau fonitro cydymffurfiaeth Arweinyddion, gan
mai 3 yn unig o aelodau’r Pwyllgor sy’n gynghorwyr, a gofynnwyd i’r Swyddog
Monitro hysbysu’r Pwyllgor yn yr adroddiad ym mis Mehefin os bydd unrhyw
broblemau wedi codi. Mewn ymateb, nododd
y Swyddog Monitro nad oedd yn rhagweld y sefyllfa honno, ond yn sicr, petai’n
gweld problem o sylwedd, bod dyletswydd arno i adrodd i’r Pwyllgor Safonau.
·
Mewn
ymateb i bryder a fynegwyd gan aelod ynglŷn â dau fater yn ymwneud ag
ymddygiad oedd wedi codi’n ddiweddar, eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd y
Protocol yn disodli’r trefniadau cwynion i’r Ombwdsmon a chwynion dan y drefn
datrysiad lleol, a phe credid bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, bod hynny’n
fater i’w ddilyn drwy’r sianelau arferol.
PENDERFYNWYD
1.
Cymeradwyo
Protocol Dyletswyddau Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol a’r Pwyllgor Safonau i’w
Arwyddo gan Gadeirydd y Pwyllgor a’r Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol.
2.
Derbyn
adroddiad pellach ar weithrediad y Protocol i gyfarfod Mehefin y Pwyllgor
Safonau.