Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro (i ddilyn)
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad a gofyn i’r Swyddog Monitro a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol baratoi
cynllun gweithredu sy’n adlewyrchu’r hyn sydd yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd:-
·
Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor
Safonau a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol yn sgil gwneud darn o waith er mwyn deall
yn well anghenion clercod cynghorau cymuned o safbwynt cefnogaeth yng
nghyd-destun y fframwaith foesegol a swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau yn
benodol.
·
Sylwadau’r Swyddog Monitro ar yr
adroddiad.
Cloriannodd y Swyddog Monitro gasgliadau’r adroddiad yn erbyn
swyddogaethau statudol y Pwyllgor mewn perthynas â chynghorau cymuned, ac yna
gwahoddwyd yr Aelod Pwyllgor Cymunedol i ddweud gair ynglŷn â’i ganfyddiadau.
Nododd yr Aelod Pwyllgor Cymunedol:-
·
Bod y gwaith gyda
detholiad o glercod cynghorau tref a chymuned wedi amlygu bod clercod
weithiau’n cael trafferth cysylltu â’r Cyngor Sir, ac y dylai’r Cyngor Sir
ddarparu llinell gymorth neilltuol ar eu cyfer.
·
Y byddai’n fuddiol
petai Llywodraeth Cymru yn paratoi llyfryn syml ar y Cod Ymddygiad ar gyfer
aelodau cynghorau tref a chymuned, a bod pob aelod o bob cyngor yn derbyn copi
ohono wrth arwyddo i fod yn gynghorydd.
·
Bod aelodau cynghorau
cymuned yn ddryslyd ynglŷn â’u grym a’u pwerau a’u perthynas â’r Cyngor
Sir.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Diolchwyd i’r Cadeirydd a’r Aelod
Pwyllgor Cymunedol am eu gwaith sylweddol yn paratoi’r adroddiad, a nodwyd nad
oedd y darlun yn syndod, gan fod yna gymaint o wahaniaeth rhwng cynghorau.
·
Holwyd beth oedd tu
cefn i’r sylw yn y Crynodeb Gweithredol bod y berthynas gyda Chyngor Gwynedd yn
fwy dyrys ac angen sylw. Mewn ymateb,
eglurodd y Cadeirydd fod y clercod yn gwybod i droi at y Swyddog Monitro
ynglŷn â mater safonau, ond yn ei chael yn anodd gwybod at bwy i droi yn y
Cyngor Sir ynglŷn â materion eraill.
Er nad oedd hyn yn ymwneud â safonau’n uniongyrchol, roedd yn fater oedd
wedi codi’n gyson yn ystod y trafodaethau gyda’r clercod.
·
Gofynnwyd i’r Swyddog
Monitro gyflwyno’r awgrym i’r Prif Weithredwr ynglŷn â sefydlu llinell
gymorth neilltuol ar gyfer clercod. Mewn
ymateb, nododd y Swyddog Monitro, er y byddai’n hapus i basio’r genadwri
ymlaen, nad oedd yn glir beth oedd yr achos busnes y tu cefn i hynny, ac roedd
o’r farn y byddai’n anodd symud y syniad yn ei flaen, yn enwedig yn y sefyllfa
ariannol anodd sy’n wynebu’r Cyngor ar hyn o bryd. Nododd hefyd na chredai fod yr adroddiad yn
darparu ochr arall y geiniog o ran sut mae’r Cyngor Sir yn gweithio ar hyn o
bryd gyda chynghorau tref a chymuned, a’i bod yn debyg bod yna sawl cyswllt
amrywiol ar draws y sir ynglŷn â hynny.
· Mewn ymateb i’r sylw y byddai’n fuddiol pe gallai Llywodraeth Cymru baratoi llyfryn ar y Cod Ymddygiad i aelodau, nododd y Swyddog Monitro fod yna ganllawiau Cod Ymddygiad penodol ar gyfer cynghorau tref a chymuned ar wefan yr Ombwdsmon. Awgrymodd aelod, er y croesawid y syniad o lyfryn, oni fyddai’n well darparu fideo hyfforddiant ar YouTube, a bod gofyn i bob cynghorydd arwyddo eu bod wedi gwylio’r fideo. Opsiwn arall fyddai darparu hyfforddiant rhithiol i glercod fel man cychwyn. Cyfeiriodd y Cadeirydd at ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7