CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT
I ystyried cais gan
Mr A
(copi arwahan i
aelodau’r Is bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd
.
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol, adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ynghyd a datganiad personol yr ymgeisydd oedd yn rhan
o’i ffurflen gais. Adroddwyd nad oedd
collfarn ar yr adroddiad DBS ond bod rhybudd ar
y drwydded gyrru o ganlyniad i dderbyn 7 pwynt cosb. Roedd
yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y pwyntiau cosb ar ei drwydded
a’i amgylchiadau personol.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd oedd
yn cynnwys datganiad personol
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Yn Mawrth 2020 derbyniodd
yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am achosi
(neu’n debygol o achosi) perygl oherwydd llwyth heb ei raffu
ar gefn lori fechan (CU50)
Yng Ngorffennaf 2020 derbyniodd
yr ymgeisydd 4 pwynt cosb am yrru
tu hwnt i derfyn cyflymder ar ffordd
gyhoeddus (SP30)
CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r
Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd
i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi
ei fod yn
berson addas a phriodol.
Mae paragraff 2.4 yn nodi
pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn
euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny,
ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5