5 CYMERADWYO ADRODDIAD YR ARCHWILIWR ANNIBYNNOL AR GYFRIFON GwE PDF 329 KB
Cyflwyno –
· Datganiad o’r
Cyfrifon ôl-Archwiliad;
· Adroddiad Swyddfa
Archwilio Cymru;
· Llythyr
Cynrychiolaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo yr adroddiad
ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru, cymeradwyo cyfrifon 2021/22, ac
awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r llythyr cynrychiolaeth ar ran y Cydbwyllgor.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid a gadarnhaodd fod Aelodau
y Cydbwyllgor eisoes wedi derbyn y wybodaeth (13 Gorffennaf) yn ei ffurf
drafft, ond bod Swyddog o Archwilio Cymru wedi eu cymeradwyo erbyn hyn. Cyfeiriodd at dri chywiriad a wnaed i’r
cyfrifon yn ystod yr archwiliad ac sydd wedi eu hamlygu yn Atodiad 3 fel a ganlyn :
Diweddaru nifer staff mewn rhai bandiau
cyflog
Symiau arian grantiau - ym mha linellau
maent yn ymddangos o fewn y cyfrifon (gweler yr eglurhad)
Cwpwl o wallau teipio, sydd wedi eu
cywiro erbyn hyn.
Ehangodd Swyddog Archwilio Cymru ar yr uchod, gan gadarnhau bod yr
adroddiad yn dangos darlun clir a theg, gan dynnu sylw at faterion :
Tudalen 4 – 441
Gweithio yn annibynnol
Llofnodion electroneg
Cadarnhaodd nad oeddynt yn faterion arwyddocaol, ac nad oes unrhyw
gamddatganiadau.
Diolchwyd am yr adroddiadau manwl ac am y cydweithio.
PENDERFYNWYD
Derbyn a chymeradwyo yr adroddiad ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru,
cymeradwyo cyfrifon 2021/22, ac awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r llythyr
cynrychiolaeth ar ran y Cyd-Bwyllgor.