6 CYLLIDEB GwE 2022-2023 - ADOLYGIAD CHWARTER 2 PDF 407 KB
Diweddaru
aelodau’r Cydbwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y
flwyddyn gyllidol 2022/23.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr Adolygiad Chwarterol oedd yn rhagweld tanwariant erbyn
diwedd 2022/23 fel a ganlyn :
Gweithwyr - Chwarter 2: tanwariant (£46,552) o ran costau staffio o’i
gymharu â : thanwariant (£84,046) oedd
yn cael ei ragweld ddiwedd Chwarter 1
Adeilad: Chwarter 2: gorwariant £25,367 o ran diffyg incwm, ond
disgwylir i'r ffrwd incwm yma wella.
Rhagwelwyd gorwariant o £25,367 ar ddiwedd Chwarter 1
Cludiant: Chwarter 2: tanwariant (£59,759), hyn o ganlyniad i lai o
deithio a ffyrdd newydd o weithio.
Diwedd Chwarter 1 rhagwelwyd tanwariant o (£46,771)
Nodwyd bod cronfa tanwariant o £91,900 net.
Adroddodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod Chwarter 2 wastad yn anodd ac mai
yn Chwarter 3 (Medi i Ragfyr) oedd y prif weithgareddau ac y byddai yn disgwyl
gweld newid.
Cwestiynwyd, gan nad yw reserfau yn cael eu caniatáu, tybed a oes
isafswm trothwy reserfau? Cadarnhawyd nad
oes cyfyngiad ar sut i ddefnyddio y gronfa tanwariant, megis ar gyfer pontio
neu brynu amser. Nodwyd er nad oes
ffigwr penodol, ond tybir o leiaf £100,000.
Atgoffodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, cyn y cyfnod clo, fod y gyllideb
wrthgefn wedi bod yn llai na £200,000.
Nodwyd y bydd yn rhaid disgwyl am Setliad Rhagfyr a gweld y goblygiadau
wrth fynd ymlaen.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at faterion swyddi gwag a recriwtio gan holi a
oes sialensiau o ran y sefyllfa secondiadau, a chadarnhawyd ei bod wedi bod yn
sialens yn yr uwchradd ers rhai blynyddoedd ond ei bod yn bryder yn y cynradd
erbyn hyn hefyd.
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad ar Gyllideb GwE 2022-2023 – Adolygiad
Chwarter 2