Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/11/2022 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 6)

6 CYLLIDEB GwE 2022-2023 - ADOLYGIAD CHWARTER 2 pdf eicon PDF 407 KB

Diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adolygiad Chwarterol oedd yn rhagweld tanwariant erbyn diwedd 2022/23 fel a ganlyn :

 

Gweithwyr - Chwarter 2: tanwariant (£46,552) o ran costau staffio o’i gymharu â : thanwariant (£84,046)  oedd yn cael ei ragweld ddiwedd Chwarter 1

Adeilad: Chwarter 2: gorwariant £25,367 o ran diffyg incwm, ond disgwylir i'r ffrwd incwm yma wella.  Rhagwelwyd gorwariant o £25,367 ar ddiwedd Chwarter 1

Cludiant: Chwarter 2: tanwariant (£59,759), hyn o ganlyniad i lai o deithio a ffyrdd newydd o weithio.  Diwedd Chwarter 1 rhagwelwyd tanwariant o (£46,771)

 

Nodwyd bod cronfa tanwariant o £91,900 net.

 

Adroddodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod Chwarter 2 wastad yn anodd ac mai yn Chwarter 3 (Medi i Ragfyr) oedd y prif weithgareddau ac y byddai yn disgwyl gweld newid.

 

Cwestiynwyd, gan nad yw reserfau yn cael eu caniatáu, tybed a oes isafswm trothwy reserfau?  Cadarnhawyd nad oes cyfyngiad ar sut i ddefnyddio y gronfa tanwariant, megis ar gyfer pontio neu brynu amser.  Nodwyd er nad oes ffigwr penodol, ond tybir o leiaf £100,000.

 

Atgoffodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, cyn y cyfnod clo, fod y gyllideb wrthgefn wedi bod yn llai na £200,000.  Nodwyd y bydd yn rhaid disgwyl am Setliad Rhagfyr a gweld y goblygiadau wrth fynd ymlaen.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at faterion swyddi gwag a recriwtio gan holi a oes sialensiau o ran y sefyllfa secondiadau, a chadarnhawyd ei bod wedi bod yn sialens yn yr uwchradd ers rhai blynyddoedd ond ei bod yn bryder yn y cynradd erbyn hyn hefyd.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad ar Gyllideb GwE 2022-2023 – Adolygiad Chwarter 2