7 CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2022-2023 GwE - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 2 PDF 268 KB
Cyflwyno
Adroddiad monitro chwarter 2 – Cynllun Busnes Rhanbarthol 2022-2023 GwE i’r Cyd-Bwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE, oedd yn rhoi darlun
o weithgarwch Gorffennaf i Fedi. Cadarnhawyd fod trafodaethau wedi cymryd lle
ar y cwricwlwm, bod y gwaith cefnogi yn parhau a bod parodrwydd gan yr ysgolion
i rannu lle maent wedi ei gyrraedd.
O ran Arweinyddiaeth, nodwyd y cynifer sydd yn mynychu’r cyrsiau gyda
nifer ohonynt o bosib yn ddarpar arweinwyr ar gyfer y dyfodol.
Nodwyd ei bod yn braf gweld prosiect Llais Ni yn dwyn ffrwyth.
Holiwyd am y ffigyrau hyfforddi a chefnogi clystyrau o amgylch y
trawsnewid. Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr
GwE eu bod ar bwynt o newid. Mae diffyg
sylweddol o ran athrawon llanw, ac er ei bod yn dda cael y cyfarfodydd wyneb yn
wyneb, mae cyflwyniadau yn cael eu recordio erbyn hyn oherwydd y pwysau ar
ysgolion bychain. Mae gwahanol ysgolion
ar lefelau gwahanol o aeddfedrwydd.
Cyfeiriwyd at dracio cynnydd ac asesu disgyblion, yn benodol o ran 360,
a sut mae hynny yn cyd-fynd â’r fframwaith newydd. Cadarnhaodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod
gwaith allweddol wedi ei wneud o ran sgiliau disgyblion a bod y gwaith tracio
yn parhau.
Cyfeiriwyd at y Gweithdai Arfarnu a Dal Effaith, a nodwyd yr angen i
dynnu papur at ei gilydd, gan weithio gydag ysgolion ar ffurf yr adroddiad,
gyda yr un egwyddorion yn rhedeg trwyddynt.
Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai yn dda cael mewnbwn. Cadarnhawyd y byddai Rheolwr Gyfarwyddwr GwE
yn dod â phapur gerbron pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.
PENDERFYNWYD
Derbyn a chymeradwyo yr Adroddiad Monitro Chwarter 2 - Cynllun Busnes
Rhanbarthol 2022-2023 GwE.