Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/11/2022 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 8)

8 BWRIAD I ADOLYGU TREFNIADAU GWEITHREDOL A'R STRWYTHUR STAFFIO PRESENNOL pdf eicon PDF 348 KB

Hysbysu’r Cyd-bwyllgor am y bwriad i adolygu’r trefniadau gweithredu a’r strwythur staffio presennol.

Penderfyniad:

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE gyda chais am ganiatâd i wneud y darn hwn o waith gyda chefnogaeth y Cyd-Bwyllgor.  Nododd y bydd y pwyslais ar gryfhau y cydweithio agos sydd eisoes rhwng GwE a’r Awdurdodau Lleol. 

 

Nododd y Cadeirydd bod hwn yn amserol iawn ac y byddai y Cyd-Bwyllgor yn falch o gael y cyfle i roi sylwadau maes o law.  Cadarnhaodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y bydd y Cyd-Bwyllgor yn cael bwydo i’r papur a’i drafod ymhellach.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo y bwriad i adolygu trefniadau gweithredol a’r strwythur staffio presennol.