9 LLYTHYR Y CYDBWYLLGOR I'R GWEINIDOG Y GYMRAEG AC ADDYSG PDF 261 KB
Darparu
cofnod ffurfiol i’r Cyd-Bwyllgor, yn dilyn trafodaethau a phenderfyniad yn y
cyfarfod blaenorol ar 05/10/2022, yng nghyswllt y llythyr a anfonwyd at y
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar 11/10/2022.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a nodi cynnwys Llythyr y Cydbwyllgor i’r Gweinidor y
Gymraeg ac Addysg
Cofnod:
Yn dilyn y cyfarfod diwethaf a’r pwysau o ran atebolrwydd, cadarnhawyd
bod llythyr wedi ei ddanfon at y Gweinidog, â chopi wedi ei anfon i ysgolion y
rhanbarth er gwybodaeth. Nodwyd bod y
llythyr wedi cael sylw yn y Fforwm Prif Athrawon a bod y gefnogaeth gan y
Cyd-Bwyllgor wedi ei werthfawrogi.
Cadarnhawyd y byddai yn cael ei roi yn ôl ar yr agenda ar gyfer cyfarfod
arall yn y dyfodol, gan fod ymateb hwyr wedi dod o swyddfa’r Gweinidog.
PENDERFYNWYD
Derbyn a nodi cynnwys Llythyr y Cydbwyllgor i’r Gweinidog y Gymraeg ac
Addysg
Dechreuodd y
cyfarfod am 10.30 a daeth i ben am 11.20 y.b.
_________________________________
CADEIRYDD