Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/11/2022 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 9)

9 LLYTHYR Y CYDBWYLLGOR I'R GWEINIDOG Y GYMRAEG AC ADDYSG pdf eicon PDF 261 KB

Darparu cofnod ffurfiol i’r Cyd-Bwyllgor, yn dilyn trafodaethau a phenderfyniad yn y cyfarfod blaenorol ar 05/10/2022, yng nghyswllt y llythyr a anfonwyd at y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar 11/10/2022.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi cynnwys Llythyr y Cydbwyllgor i’r Gweinidor y Gymraeg ac Addysg

Cofnod:

Yn dilyn y cyfarfod diwethaf a’r pwysau o ran atebolrwydd, cadarnhawyd bod llythyr wedi ei ddanfon at y Gweinidog, â chopi wedi ei anfon i ysgolion y rhanbarth er gwybodaeth.  Nodwyd bod y llythyr wedi cael sylw yn y Fforwm Prif Athrawon a bod y gefnogaeth gan y Cyd-Bwyllgor wedi ei werthfawrogi.  Cadarnhawyd y byddai yn cael ei roi yn ôl ar yr agenda ar gyfer cyfarfod arall yn y dyfodol, gan fod ymateb hwyr wedi dod o swyddfa’r Gweinidog.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi cynnwys Llythyr y Cydbwyllgor i’r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 10.30 a daeth i ben am 11.20 y.b.

 

 

 

 

_________________________________

 

CADEIRYDD