7 Cais Rhif C21/0575/00/LL Aukland House, 17 Rhodfa'r Môr, Abermaw, Gwynedd, LL42 1NA PDF 438 KB
Trosi a newid defnydd
un annedd i fod yn 6 fflat 1 ystafell wely
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Rob Triggs
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
1.
5
mlynedd.
2.
Yn
unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.
3.
Unrhyw
addasiadau i wynebau allanol yr adeilad i gael eu gorffen i gydweddu.
4.
Amod i
gytuno cynllun tai fforddiadwy.
5.
Y
fflatiau a ganiateir drwy hyn i fod ar gyfer dosbarth defnydd C3 yn unig o’r
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygiad) (Cymru)
2022 ac nid ar gyfer defnydd C5 na C6.
6.
Cyflwyno
a chytuno manylion lle ar gyfer storio biniau gwastraff / ailgylchu.
7.
Oriau
gwaith.
Nodiadau - Dŵr Cymru, Deddf Wal Gydrannol
Cofnod:
Trosi a newid defnydd un annedd i fod yn 6 fflat
1 ystafell wely
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd yn ymwneud a throsi a newid
defnydd un annedd yn 6 fflat 1 ystafell wely.
Byddai 1 fflat ar yr islawr, 2 ar lefel llawr daear ac 1 fflat ar lefel y llawr cyntaf, ail a
trydydd. Yn allanol byddai’r newid yn
cynnwys cyfnewid 1 ffenestr am ddrws ac adeiladu ffrâm ddur cerdded yn y cefn
ar lefel llawr daear. Saif y safle o fewn ffin ddatblygu Abermaw gyda’r eiddo
yn ffurfio rhan o res o dai. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod y cais yn
ymwneud â 5 neu fwy o dai.
Adroddwyd
bod Abermaw, yn y CDLl, wedi ei adnabod fel Canolfan
Gwasanaeth Lleol o dan Bolisi TAI 2 sy’n cefnogi datblygiadau tai fyddai’n
cwrdd â strategaeth y Cynllun wedi ei
seilio ar ddarpariaeth dangosol y Polisi. O’r wybodaeth a dderbyniwyd gan Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd, nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol Abermaw dros
gyfnod y Cynllun oedd 91 uned gyda 50 uned wedi eu cwblhau rhwng 2011 a 2021, ynghyd a 36 unedau gyda
chaniatâd cynllunio presennol. Byddai’r bwriad yn creu 6 uned byw ychwanegol
fyddai’n golygu bod Abermaw wedi cyrraedd y lefel twf dangosol gyda’r datblygiad
yma ac felly'r bwriad yn dderbyniol yn nhermau Polisi TAI 2 CDLl.
Cyfeiriwyd
at Polisi TAI 9 sy’n caniatáu rhannu eiddo presennol yn fflatiau hunangynhaliol
cyhyd â'u bod yn cydymffurfio â 4 maen prawf y polisi. Tynnwyd sylw penodol at
faen prawf (4) sy’n nodi na ddylai’r cynnig waethygu problemau parcio yn yr
ardal leol. Adroddwyd, er nad oedd llefydd parcio o fewn cwrtil yr eiddo, bod
yr eiddo presennol yn un 9 ystafell wely a byddai’r bwriad yn darparu cyfanswm
o 6 ystafell wely. Ategwyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn ystyried, oherwydd
gostyngiad mewn nifer ystafelloedd gwely a ddarperir, yn golygu llai o alw am
lefydd parcio yn lleol ac y byddai’r effaith yn un gadarnhaol ar y ddarpariaeth
barcio leol. Y bwriad felly yn dderbyniol o ran maen prawf (4) Polisi TAI 9
CDLL.
Nodwyd bod sylwadau gan drydydd parti wedi ei derbyn yn amlygu pryder y byddai’r fflatiau yn cael eu defnyddio fel fflatiau gwyliau a’r effaith byddai hynny yn cael ar y dref o ystyried y posibilrwydd y byddai’n mynd yn debyg i ardaloedd eraill o fewn Gwynedd ac ymhellach draw. Mewn ymateb, amlygwyd, bod Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygiad) (Cymru) 2022 a ddaeth i rym 20/10/22 wedi gwneud newidiadau o ran dosbarthiadau defnydd unedau preswyl gyda dosbarth defnydd C3 bellach wedi ei nodi fel tai annedd a ddefnyddir fel unig neu brif breswylfa. Ychwanegwyd dau ddosbarth defnydd - C5 yn dai annedd a ddefnyddir mewn modd gwahanol i brif neu unig breswylfa a dosbarth C6 ar gyfer gosod tymor byr o ddim mwy na 31 diwrnod ar gyfer pob cyfnod o feddiant. Ystyriwyd y byddai’n briodol felly gosod amod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7