Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 15/12/2022 - Bwrdd Pensiwn (eitem 11)

11 DIWEDDARIAD ACHOS MCCLOUD pdf eicon PDF 258 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn diweddaru’r Bwrdd ar y gwaith sydd yn cael ei wneud mewn ymateb i achos McCloud. Atgoffwyd yr Aelodau, pan ddiwygiwyd cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn 2014 a 2015, cyflwynwyd mesurau diogelu ar gyfer aelodau hŷn i sicrhau na fyddai’r diwygiadau’n creu effaith negyddol ar eu pensiwn. Er hynny yn Rhagfyr 2018, dyfarnodd y Llys Apêl bod rhai aelodau wedi dioddef anffafriaeth oherwydd nad oedd yr amddiffyniadau yn berthnasol iddynt hwy. O ganlyniad, roedd rhaid i'r Llywodraeth ystyried rhoi amddiffyniad i aelodau iau sy'n gyfartal â'r amddiffyniad sylfaenol a ddarperir i aelodau hŷn er mwyn dileu'r anffafriaeth.

 

Cyfeirir at y gwaith o ddileu’r ‘anffafriaeth’ fel Prosiect McCloud ac er yn derbyn y bydd yn brosiect sylweddol i’r Gronfa a’r cyflogwyr, gydag ychydig iawn o newid i werth buddion aelodau ar ddiwedd y prosiect, bod cyfle gwych yma i sicrhau bod data cywir a chyfredol, yn cael ei gofnodi ar gyfer y Dashfwrdd Pensiynau.

 

Wrth gydweithio gyda Hymans Robertson adroddwyd bod oddeutu 11,500 o aelodau’r Gronfa wedi eu heffeithio gan achos Mc Cloud ac y bydd angen gweithredu rhyw fath o adolygiad arnynt.  Yn dilyn cais am wybodaeth gan 22 o gyflogwyr y Gronfa, adroddwyd bod y wybodaeth oedd eisoes wedi dod i law mewn cyflwr da.

 

Ategwyd bod y gwaith yn un arbenigol a bod angen staff profiadol i ymgymryd â’r gwaith er cywirdeb. Yn Ionawr 2022 cymeradwywyd gwariant ar gyfer 3 swydd dros dro i gynorthwyo gyda’r gwaith, ond gyda recriwtio staff yn her i gronfeydd ledled y DU, nodwyd bod dwy o’r swyddi heb eu llenwi. Er hynny, yn dilyn ail-hysbysebu diweddar adroddwyd bod 12 cais wedi eu derbyn â bod hynny yn galonogol. Er gwaethaf y sefyllfa gyda’r swyddi, adroddwyd bod y gwaith wedi dechrau’n dda a bod yr Adran Pensiynau yn hyderus, gyda chydweithrediad y cyflogwyr, y gellid cwblhau’r gwaith yn llwyddiannus, unwaith y bydd tîm llawn yn ei le.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol

·         Croesawu nifer y ceisiadau am swydd

·         Diolch i’r tîm am eu gwaith - er yr ymroddiad clodwiw, ni fydd y gwaith ar brosiect McCloud yn debygol o ddod a budd i lawer

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth