Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol a
gynhaliwyd ar gynyddu capasiti Ysgol Chwilog ynghyd
â’r ymatebion i’r sylwadau hynny, a phenderfynwyd:
·
Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol a chynnal
cyfnod gwrthwynebu, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i ehangu safle’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95 o 1 Medi 2023, sef cynnydd o
dros 25% o’r capasiti presennol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Beca Brown
PENDERFYNIAD
Ystyriwyd y
sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ar
gynyddu capasiti
Ysgol Chwilog ynghyd â’r ymatebion i’r sylwadau hynny, a phenderfynwyd:
·
Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol a
chynnal cyfnod gwrthwynebu, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a
Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i ehangu safle’r ysgol a
fyddai’n cynyddu capasiti
Ysgol Chwilog i 95 o 1 Medi 2023, sef cynnydd o dros 25% o’r capasiti
presennol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad positif hwn sydd yn ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r
ymgynghoriad statudol i gynyddu capasiti
Ysgol Chwilog i 95 sydd yn gynnydd o dros 25%. Nodwyd mai arian o grant cyfalaf
y Gymraeg yw hon ac mae ymgais yma i geisio cyfarch rhai o anghenion y
cymunedau rheini sydd â dros 70% o’r bobl yn siarad Cymraeg.
Mynegwyd bod
cefnogaeth glir i’w weld wrth ystyried
ymatebion yr ymgynghoriad a bod plant yr ardal hefyd yn credu y bydd yn gam
positif i Ysgol Chwilog. Credwyd bod yr adroddiad yn dangos dyhead yr Adran
Addysg i gefnogi Cymraeg holl blant y Sir ac yn benodol i gryfhau'r iaith
Gymraeg yn ardal Chwilog.
Nodwyd heblaw
am y gefnogaeth bod ambell i sylw wedi
eu derbyn am faterion fel neuadd
yr Ysgol ac yr ystafell athrawon sy’n dangos bod rhai wedi dal ar y cyfle yn
ystod yr ymgynghorid i gyfleu negeseuon eraill.
Nid oedd
sylwadau pellach
dim ond cefnogaeth gan y Cabinet.
Awdur: Gwern ap Rhisiart