Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 24/01/2023 - Y Cabinet (eitem 11)

11 ADRODDIAD YMGYNGHORIAD STATUDOL YSGOL CHWILOG A DIWEDDARIAD O'R GRANT CYFALAF ADDYSG CYFRWNG CYMRAEG pdf eicon PDF 263 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ar gynyddu capasiti Ysgol Chwilog ynghyd â’r ymatebion i’r sylwadau hynny, a phenderfynwyd:

·       Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol a chynnal cyfnod gwrthwynebu, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i ehangu safle’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95 o 1 Medi 2023, sef cynnydd o dros 25% o’r capasiti presennol.



Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown 

 

PENDERFYNIAD 

 

Ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ar gynyddu capasiti Ysgol Chwilog ynghyd â’r ymatebion i’r sylwadau hynny, a phenderfynwyd: 

·                Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol a chynnal cyfnod gwrthwynebu, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i ehangu safle’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95 o 1 Medi 2023, sef cynnydd o dros 25% o’r capasiti presennol. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad positif hwn sydd yn ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad statudol i gynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95 sydd yn gynnydd o dros 25%. Nodwyd mai arian o grant cyfalaf y Gymraeg yw hon ac mae ymgais yma i geisio cyfarch rhai o anghenion y cymunedau rheini sydd â dros 70% o’r bobl yn siarad Cymraeg. 

 

Mynegwyd bod cefnogaeth glir i’w weld wrth ystyried ymatebion yr ymgynghoriad a bod plant yr ardal hefyd yn credu y bydd yn gam positif i Ysgol Chwilog. Credwyd bod yr adroddiad yn dangos dyhead yr Adran Addysg i gefnogi Cymraeg holl blant y Sir ac yn benodol i gryfhau'r iaith Gymraeg yn ardal Chwilog. 

 

Nodwyd heblaw am y gefnogaeth bod ambell i sylw wedi eu derbyn am faterion fel  neuadd yr Ysgol ac yr ystafell athrawon sy’n dangos bod rhai wedi dal ar y cyfle yn ystod yr ymgynghorid i gyfleu negeseuon eraill. 

 

Nid oedd sylwadau pellach dim ond cefnogaeth gan y Cabinet.  

 

Awdur: Gwern ap Rhisiart