Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 24/01/2023 - Y Cabinet (eitem 9)

9 RHAGLEN GYFALAF 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2022 pdf eicon PDF 448 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·       Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2022) o’r rhaglen gyfalaf.

·       Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

-        cynnydd o £30,000 mewn defnydd o fenthyca

-        cynnydd o £2,947,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-        cynnydd o £101,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-        cynnydd o £20,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-        cynnydd o £1,167,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD 

 

·       Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2022) o’r rhaglen gyfalaf. 

·       Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:  

·       cynnydd o £30,000 mewn defnydd o fenthyca 

·       cynnydd o £2,947,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau 

·       cynnydd o £101,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf 

·       cynnydd o £20,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw 

·       cynnydd o £1,167,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai prif ddiben yr adroddiad oedd i gyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi dadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf o £140.6 miliwn am gyfnod o dair blynedd o 2022/23 - 2024/25. 

 

Cyfeiriwyd at y ffynonellau i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £4.3 miliwn ers yr adolygiad diwethaf. Mynegwyd fod gan y Cyngor gynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi oddeutu £53 miliwn eleni, gyda £20 miliwn wedi’i ariannu drwy grantiau penodol.  

 

Eglurwyd bod effaith ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen gyfalaf gyda 40% o’r gyllideb wedi ei gwario hyd at ddiwedd Tachwedd eleni, o’i gymharu â 37% dros yr un cyfnod flwyddyn yn ôl; 31% ddwy flynedd yn ôl a 51% yn 2019/20 cyn amhariad Covid. Nodwyd fod £28.7 miliwn o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2022/23 i 2023/24 a 2024/25 gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys £11.4 miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai, £5.5 miliwn Cynlluniau Ysgolion a £4.1 miliwn Adnewyddu Cerbydau.   

 

Tynnwyd sylw at y grantiau ychwanegol y llwyddodd y Cyngor i’w denu ers yr adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys £2 miliwn Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, £0.9 miliwn Grant Cyfalaf Anghenion Dysgu Ychwanegol a £0.4 miliwn Grant Llywodraeth Cymru tuag at Gynllunio Gwledig (Gwella Mynediad).  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Nodwyd bod y maes yn ddyrys

 

Awdur: Ffion Madog Evans