9 RHAGLEN GYFALAF 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2022 PDF 448 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
·
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd
Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2022) o’r rhaglen gyfalaf.
·
Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn
rhan 4 o’r adroddiad, sef:
-
cynnydd o £30,000 mewn defnydd o fenthyca
-
cynnydd o £2,947,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau
-
cynnydd o £101,000 mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf
-
cynnydd o £20,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw
-
cynnydd o £1,167,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
·
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad
diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2022) o’r rhaglen gyfalaf.
·
Cymeradwywyd ariannu addasedig a
gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:
·
cynnydd o £30,000 mewn defnydd o fenthyca
·
cynnydd o £2,947,000 mewn defnydd o
grantiau a chyfraniadau
·
cynnydd o £101,000 mewn defnydd o
dderbyniadau cyfalaf
·
cynnydd o £20,000 mewn defnydd o
gyfraniadau refeniw
·
cynnydd o £1,167,000 mewn defnydd o
gronfeydd adnewyddu ac eraill
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi mai prif ddiben yr adroddiad oedd i gyflwyno’r rhaglen
gyfalaf ddiwygiedig a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Mynegwyd
fod yr adroddiad yn nodi dadansoddiad fesul Adran
o’r rhaglen gyfalaf o £140.6 miliwn am gyfnod o dair blynedd o 2022/23 -
2024/25.
Cyfeiriwyd
at y ffynonellau i
ariannu’r
cynnydd
net sydd
oddeutu
£4.3 miliwn
ers
yr
adolygiad
diwethaf.
Mynegwyd fod
gan y Cyngor gynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi
oddeutu £53 miliwn eleni, gyda £20 miliwn wedi’i ariannu drwy grantiau penodol.
Eglurwyd bod
effaith ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen gyfalaf gyda 40% o’r gyllideb
wedi ei gwario hyd at ddiwedd Tachwedd eleni, o’i gymharu â 37% dros yr un
cyfnod flwyddyn yn ôl; 31% ddwy flynedd yn ôl a 51% yn 2019/20 cyn amhariad Covid. Nodwyd fod £28.7 miliwn o wariant
arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2022/23 i 2023/24 a 2024/25 gyda’r prif
gynlluniau yn cynnwys £11.4 miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai, £5.5 miliwn
Cynlluniau Ysgolion a £4.1 miliwn Adnewyddu Cerbydau.
Tynnwyd sylw
at y grantiau ychwanegol y llwyddodd y Cyngor i’w
denu ers yr
adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys £2
miliwn Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, £0.9 miliwn Grant Cyfalaf Anghenion
Dysgu Ychwanegol a £0.4
miliwn Grant Llywodraeth Cymru tuag at Gynllunio Gwledig (Gwella Mynediad).
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Nodwyd bod y maes yn ddyrys
Awdur: Ffion Madog Evans