8 TROSOLWG ARBEDION - ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 576 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd
tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2022/23 a blynyddoedd blaenorol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd y
wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd tuag at wireddu cynlluniau
arbedion 2022/23 a blynyddoedd blaenorol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad sy’n crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Eglurwyd ers
2015/16 bod
gwerth £35.4 miliwm o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w
gwireddu ar gyfer y cyfnod 2015/16 - 2022/23. Amlygwyd
bod cyfanswm o £33.5 miliwn o’r arbedion
yma wedi eu gwireddu ers 2015/16, sydd yn 95% o’r swm gofynnol dros y cyfnod.
Edrychwyd ar y
flwyddyn ariannol gyfredol gan fynegi bod 22% o arbedion 2022/23
eisoes wedi eu gwireddu a 2% pellach ar drac i gyflawni’n amserol. Cyfeiriwyd
at yr Adrannau sydd efo’r gwerth uchaf o ran cynlluniau sydd eto i’w cyflawni
sef yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.
I gloi soniwyd
am werth yr arbedion sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2023/24 ymlaen gan
nodi bod cynlluniau arbedion a thoriadau ychwanegol ar gyfer 2023/24 eisoes dan
ystyriaeth gan y Cyngor.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Mynegwyd bod rhaid cofio bod gwireddu’r
arbedion yn golygu effaith uniongyrchol ar drigolion y Sir o ganlyniad i safon
rhai gwasanaethau yn gostwng. Eglurwyd ei bod yn bwysig cyflawni’r arbedion ond
eu bod yn deillio o bolisïau llymder y Llywodraeth ac nid o ddewis
Cyngor Gwynedd.
·
Cyfeiriwyd hefyd ar yr effaith yr holl
arbedion dros y blynyddoedd ar staff y Cyngor.
·
Credwyd bod angen gwneud rhywfaint o
arbedion yn flynyddol er mwyn bod yn effeithlon sy’n ran o egwyddorion Ffordd
Gwynedd ond bod gorfod gwireddu gymaint o arbedion dros yr
holl flynyddoedd
wedi
bod yn
anodd.
Awdur: Ffion Madog Evans