Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 24/01/2023 - Y Cabinet (eitem 12)

12 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID pdf eicon PDF 417 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn adrodd ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y maes Cyllid dros y misoedd diwethaf. Nodwyd bod perfformiad da yn yr Adran gyda chynnydd boddhaol yn cael ei wneud ar y prosiect blaenoriaeth perthnasol o fewn Cynllun y Cyngor. 

 

Cyfeiriwyd at amryw o wasanaethau megis y Gwasanaeth Archwilio Mewnol a'r Gwasanaeth Budd-daliadau. Nodwyd bod y Gwasanaeth Budd-daliadau yn parhau i berfformio yn erbyn ei fesurau cyflawni craidd ond bod cyfartaledd yr amser y cymerir i brosesu cais budd-dal newydd wedi cynyddu o 20.7 diwrnod ym mis Tachwedd 2021 i 24.1 diwrnod ar gyfer mis Tachwedd 2022. Eglurwyd bod hyn yn gyfuniad o swyddi gwag a salwch yn ogystal â chynnydd yn y gwaith yn sgil taliadau tanwydd gaeaf. Adroddwyd bod brwdfrydedd o fewn y Gwasanaeth a’u bod yn cymryd rhan mewn dau gynllun corfforaethol sef Cynllun Datblygu’r Gweithlu a’r Cynllun Meithrin Talent. 

 

Nodwyd bod yr un problemau staffio yn bodoli o fewn Gwasanaethau eraill megis y Gwasanaeth Trethi ble mae recriwtio a chadw staff yn broblem gynyddol. Amlygwyd rhwystredigaeth o fewn y Gwasanaethau Cyllid a Chyfrifeg ynghylch derbyn anfonebau yn amserol gan weddill Adrannau’r Cyngor er mwyn eu prosesu. Credwyd bod cyfrifoldeb ar yr holl Aelodau Cabinet i geisio sicrhau bod yr Adrannau yn anfon anfonebau heb oedi. 

 

Nodwyd bod y Gwasanaeth TG wedi bod yn llwyddiannus gyda’u hymdrechion diweddar i lenwi swyddi gwag yn dilyn cyfnod o fethu penodi. Mynegwyd dymuniad i fwy o adborth gael ei roi i’r Gwasanaeth Cefnogol TG ar draws holl Adrannau’r Cyngor. Soniwyd bod yr adborth sy’n cael ei dderbyn ar y cyfan yn bositif iawn ond prin yw’r adborth hwn. I gloi cyfeiriwyd at y Gwasanaeth TG Dysgu Digidol sydd yn wasanaeth newydd gyda chryn dipyn o waith wedi ei gyflawni hyd yn hyn. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Soniwyd am y llythyr diweddar gafodd ei dderbyn gan y Gweinidog Julie James ynglŷn â’r cynllun taliad tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru. Roedd y llythyr yn nodi bod 72% o’r taliadau wedi eu talu ar gyfartaledd ar draws Cymru ond bod Gwynedd wedi talu 95% ac yn parhau i chwilio am y 5% arall i dalu sydd yn glod mawr i waith yr Adran. Gofynnwyd i’r Pennaeth Cyllid gyfleu'r clod hwn i’r Gwasanaeth. 

·                  Nodwyd bod yr Adran wedi bod yn chwilio am ffyrdd gwahanol o wneud y gwaith hwn drwy ddefnyddio’r Swyddfa Bost sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn.  

Awdur: Dewi Aeron Morgan