12 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID PDF 417 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn adrodd ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y maes Cyllid dros y
misoedd diwethaf. Nodwyd bod perfformiad da yn
yr Adran gyda chynnydd boddhaol yn cael ei wneud ar y prosiect blaenoriaeth
perthnasol o fewn Cynllun y Cyngor.
Cyfeiriwyd at
amryw o wasanaethau megis y Gwasanaeth Archwilio Mewnol a'r Gwasanaeth
Budd-daliadau. Nodwyd bod y Gwasanaeth Budd-daliadau yn parhau i berfformio yn
erbyn ei fesurau cyflawni craidd ond bod cyfartaledd yr amser y cymerir i
brosesu cais budd-dal newydd wedi cynyddu o 20.7 diwrnod ym
mis
Tachwedd 2021 i 24.1 diwrnod ar gyfer mis Tachwedd 2022. Eglurwyd bod hyn yn
gyfuniad o swyddi gwag a salwch yn ogystal â chynnydd yn y gwaith yn sgil
taliadau tanwydd gaeaf. Adroddwyd bod brwdfrydedd o fewn y Gwasanaeth a’u bod
yn cymryd rhan mewn dau gynllun corfforaethol sef Cynllun Datblygu’r Gweithlu
a’r Cynllun Meithrin Talent.
Nodwyd bod yr
un problemau staffio yn bodoli o fewn Gwasanaethau eraill megis y Gwasanaeth
Trethi ble mae recriwtio a chadw staff yn broblem gynyddol. Amlygwyd
rhwystredigaeth o fewn y Gwasanaethau Cyllid a Chyfrifeg ynghylch derbyn
anfonebau yn amserol gan weddill Adrannau’r Cyngor er mwyn eu prosesu. Credwyd
bod cyfrifoldeb ar yr holl Aelodau Cabinet i geisio sicrhau bod yr Adrannau yn
anfon anfonebau heb oedi.
Nodwyd bod y
Gwasanaeth TG wedi bod yn llwyddiannus gyda’u hymdrechion diweddar i lenwi
swyddi gwag yn dilyn cyfnod o fethu penodi. Mynegwyd dymuniad i fwy o adborth
gael ei roi i’r Gwasanaeth Cefnogol TG ar draws holl Adrannau’r Cyngor. Soniwyd
bod yr adborth sy’n cael ei dderbyn ar y cyfan yn bositif iawn ond prin yw’r
adborth hwn. I gloi cyfeiriwyd at y Gwasanaeth TG Dysgu Digidol sydd yn
wasanaeth newydd gyda chryn dipyn o waith wedi ei gyflawni hyd yn hyn.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Soniwyd am y llythyr diweddar gafodd ei
dderbyn gan y Gweinidog Julie James
ynglŷn â’r cynllun taliad tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru. Roedd y llythyr
yn nodi
bod 72% o’r taliadau wedi
eu talu ar gyfartaledd ar draws Cymru ond bod Gwynedd wedi talu 95% ac yn
parhau i chwilio am y 5% arall i dalu sydd yn glod mawr i waith yr Adran.
Gofynnwyd i’r Pennaeth Cyllid gyfleu'r clod hwn i’r Gwasanaeth.
·
Nodwyd bod yr Adran wedi bod yn chwilio
am ffyrdd gwahanol o wneud y gwaith hwn drwy ddefnyddio’r Swyddfa Bost sydd
wedi bod yn llwyddiannus iawn.
Awdur: Dewi Aeron Morgan