10 CYNLLUN FFLYD WERDD 2023-29 PDF 236 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Berwyn Parry Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadwyd y Cynllun Fflyd Werdd 2023-28 (a weler yn
Atodiad 1) a cytunwyd:
·
bod Adrannau'r Cyngor ddim i brynu, adnewyddu,
neu waredu unrhyw gerbyd cyn yn gyntaf trafod ei anghenion gyda'r Rheolwr
Fflyd, a chael ei gydsyniad;
·
bod angen creu system pŵl corfforaethol yn
lle rhai Adrannol;
·
bod y Rheolwr Fflyd i arwain ar y gwaith o
chwynnu’r stoc bresennol o gerbydau’r Cyngor, a chreu strwythur cerbydau i bob
Adran.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry
Jones
PENDERFYNIAD
Mabwysiadwyd y
Cynllun Fflyd Werdd 2023-28 (a weler yn Atodiad 1) a cytunwyd:
·
bod Adrannau'r Cyngor ddim i brynu,
adnewyddu, neu waredu unrhyw gerbyd cyn yn gyntaf trafod ei anghenion gyda'r
Rheolwr Fflyd, a chael ei gydsyniad;
·
bod angen creu system pŵl
corfforaethol yn lle rhai Adrannol;
·
bod y Rheolwr Fflyd i arwain ar y gwaith
o chwynnu’r stoc bresennol o gerbydau’r Cyngor, a chreu strwythur cerbydau i
bob Adran.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan gyfeirio nôl at gyhoeddiad y Cyngor o Argyfwng Newid Hinsawdd ym
mis Mawrth 2019 a arweiniodd at gyhoeddi Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur gan
y Cabinet ym mis Mawrth 2022 oedd yn gosod targed y bydd y Cyngor yn garbon
sero net erbyn 2023. Nodwyd bod y Cynllun Fflyd Werdd yn
cynnwys nifer o brosiectau sy’n mynd ati i helpu i wireddu’r amcan
yma
drwy leihau allyriadau carbon sydd yn deillio o ddefnydd Fflyd y Cyngor. Nodwyd
bod cost yn gysylltiedig â hyn ond byddai cost uwch o lawer yn deillio o wneud
dim.
Cyflwynwyd y
Cynllun hwn ar weledigaeth y Gwasanaeth Fflyd i’r Bwrdd Newid Hinsawdd a Natur
ym mis Tachwedd 2022 a chytunwyd y byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r
Cabinet am gymeradwyaeth. Adroddwyd bod cryn waith i’w gyflawni a gall unrhyw
oedi amharu ar y rhaglen waith o gyrraedd y nod.
Amlygwyd rhai
agweddau o’r Cynllun gan y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Cyfeiriwyd
at y
targedau sydd wedi eu
gosod gan Lywodraeth Cymru a’r gofyn i edrych ar newid
y
drefn o ran sut mae’r Cyngor yn prynu cerbydau. Erbyn
2030 mae
disgwyliad
bod unrhyw gerbyd bychain mae’r
Cyngor yn ei brynu efo
allyriadau isel.
Soniwyd am
faint Fflyd y Cyngor sydd yn cynnwys o gwmpas 550 o gerbydau ar draws y Sir
sy’n
cwmpasu ystod eang o wahanol gerbydau. Cyfeiriwyd at y camau fydd yn cael eu
dilyn gan y Gwasanaeth sy’n cynnwys
gwaith chwynnu o ran adolygu cerbydau a herio os
oes gwir angen y cerbyd yn y lle cyntaf. Yna bydd gwaith arloesol yn dilyn o
ail edrych ar y dechnoleg sydd ar gael ac yna'r gwaith adnewyddu fydd yn
cynnwys gosod allan y cyfeiriad y mae’r Cyngor yn dymuno ei ddilyn efo’r
Cynllun Fflyd.
Nodwyd bod y
rhaglen o ran sut fydd y Gwasanaeth yn gweithio wedi ei osod yn yr adroddiad.
Cyfeiriwyd at ddatblygiadau eraill sydd yn digwydd ynglŷn â threialu yn
ogystal â datblygiadau ar y cyd fel y Cynllun Defnydd
Hydrogen sydd yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Fflint ar gyfer cerbydau
trymion.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Nid oedd sylwadau oni bai am ddymuno’r
gorau i’r Adran a’r Gwasanaeth Fflyd a mynegwyd ei fod yn waith pwysig o ran
ymdrechion y Cyngor i ostwng allyriadau.
Awdur: Steffan Jones