Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 24/01/2023 - Y Cabinet (eitem 10)

10 CYNLLUN FFLYD WERDD 2023-29 pdf eicon PDF 236 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Berwyn Parry Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd y Cynllun Fflyd Werdd 2023-28 (a weler yn Atodiad 1) a cytunwyd:

·       bod Adrannau'r Cyngor ddim i brynu, adnewyddu, neu waredu unrhyw gerbyd cyn yn gyntaf trafod ei anghenion gyda'r Rheolwr Fflyd, a chael ei gydsyniad;

·       bod angen creu system pŵl corfforaethol yn lle rhai Adrannol;

·       bod y Rheolwr Fflyd i arwain ar y gwaith o chwynnu’r stoc bresennol o gerbydau’r Cyngor, a chreu strwythur cerbydau i bob Adran.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones 

 

PENDERFYNIAD 

 

Mabwysiadwyd y Cynllun Fflyd Werdd 2023-28 (a weler yn Atodiad 1) a cytunwyd: 

·       bod Adrannau'r Cyngor ddim i brynu, adnewyddu, neu waredu unrhyw gerbyd cyn yn gyntaf trafod ei anghenion gyda'r Rheolwr Fflyd, a chael ei gydsyniad;  

·       bod angen creu system pŵl corfforaethol yn lle rhai Adrannol; 

·       bod y Rheolwr Fflyd i arwain ar y gwaith o chwynnu’r stoc bresennol o gerbydau’r Cyngor, a chreu strwythur cerbydau i bob Adran. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gyfeirio nôl at gyhoeddiad y Cyngor o Argyfwng Newid Hinsawdd ym mis Mawrth 2019 a arweiniodd at gyhoeddi Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur gan y Cabinet ym mis Mawrth 2022 oedd yn gosod targed y bydd y Cyngor yn garbon sero net erbyn 2023. Nodwyd bod y Cynllun Fflyd Werdd yn cynnwys nifer o brosiectau sy’n mynd ati i helpu i wireddu’r amcan yma drwy leihau allyriadau carbon sydd yn deillio o ddefnydd Fflyd y Cyngor. Nodwyd bod cost yn gysylltiedig â hyn ond byddai cost uwch o lawer yn deillio o wneud dim. 

 

Cyflwynwyd y Cynllun hwn ar weledigaeth y Gwasanaeth Fflyd i’r Bwrdd Newid Hinsawdd a Natur ym mis Tachwedd 2022 a chytunwyd y byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet am gymeradwyaeth. Adroddwyd bod cryn waith i’w gyflawni a gall unrhyw oedi amharu ar y rhaglen waith o gyrraedd y nod. 

 

Amlygwyd rhai agweddau o’r Cynllun gan y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Cyfeiriwyd at y targedau sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru a’r gofyn i edrych ar newid y drefn o ran sut mae’r Cyngor yn prynu cerbydau. Erbyn 2030 mae disgwyliad bod unrhyw gerbyd bychain mae’r Cyngor yn ei brynu efo allyriadau isel.  

 

Soniwyd am faint Fflyd y Cyngor sydd yn cynnwys o gwmpas 550 o gerbydau ar draws y Sir sy’n cwmpasu ystod eang o wahanol gerbydau. Cyfeiriwyd at y camau fydd yn cael eu dilyn gan y Gwasanaeth syn cynnwys gwaith chwynnu o ran adolygu cerbydau a herio os oes gwir angen y cerbyd yn y lle cyntaf. Yna bydd gwaith arloesol yn dilyn o ail edrych ar y dechnoleg sydd ar gael ac yna'r gwaith adnewyddu fydd yn cynnwys gosod allan y cyfeiriad y mae’r Cyngor yn dymuno ei ddilyn efo’r Cynllun Fflyd. 

 

Nodwyd bod y rhaglen o ran sut fydd y Gwasanaeth yn gweithio wedi ei osod yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at ddatblygiadau eraill sydd yn digwydd ynglŷn â threialu yn ogystal â datblygiadau ar y cyd fel y Cynllun Defnydd Hydrogen sydd yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Fflint ar gyfer cerbydau trymion. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Nid oedd sylwadau oni bai am ddymuno’r gorau i’r Adran a’r Gwasanaeth Fflyd a mynegwyd ei fod yn waith pwysig o ran ymdrechion y Cyngor i ostwng allyriadau.  

 

Awdur: Steffan Jones