6 Cais Rhif C21/1038/41/LL Ty'n Lôn, Afonwen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6TX PDF 427 KB
Sefydlu maes carafanau teithiol (19 uned) gyda bloc
toiledau a gwaith cysylltiedig
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: gohirio er mwyn
cynnal ymweliad safle
Cofnod:
Sefydlu
maes carafanau teithiol (19 uned) gyda bloc toiledau a gwaith cysylltiedig
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer newid
defnydd tir amaethyddol, i sefydlu safle carafanau teithiol i 19 uned, ymestyn
adeilad presennol i greu bloc toiledau a gwaith cysylltiedig ar dir yn Nhŷ’n Lôn, Afonwen. Byddai’r unedau teithiol wedi eu
lleoli o amgylch terfynau’r cae i’r gogledd orllewin o’r eiddo.
Eglurwyd bod Datganiad
Cynllunio a datganiad cryno am sut roddwyd ystyriaeth i’r Iaith Gymraeg wedi eu
cyflwyno gyda’r cais gwreiddiol ynghyd ag Asesiad Ecolegol Cychwynnol, Arolwg
Botanegol ac Arolwg Moch Daear a Chynllun mesurau lliniaru bywyd gwyllt yn
ddiweddarach. Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn gofyn am floc toiledau newydd,
ond fe gyflwynwyd cynlluniau diwygiedig (12 Rhagfyr 2022) yn dangos bwriad i
ymestyn adeilad modurdy presennol ar y safle i greu bloc toiledau/cyfleusterau
yn eu lle.
Cyflwynwyd y cais i’r
Pwyllgor Cynllunio gan fod safle’r cais yn fwy na 0.5 hectar o faint.
Nodwyd mai Polisi TWR 5 o’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl)
oedd y polisi perthnasol ar gyfer caniatáu datblygiadau ar gyfer carafanau
teithiol. Eglurwyd bod y polisi yn gosod cyfres o feini prawf a chyfeiriwyd at
faen prawf 1 sy’n datgan y dylai unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd
fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad; wedi’i guddio’n dda
gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau
teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w
hansawdd weledol.
Adroddwyd y byddai’r bwriad
arfaethedig wedi ei leoli mewn cae gwastad sydd â choed aeddfed ar y terfynau
ac felly’n guddiedig o leoliadau cyhoeddus. Ategwyd bod bwriad i atgyfnerthu
sgrinio’r safle trwy blannu gwrych newydd o goed cynhenid fel ffin orllewinol
newydd i wahanu’r cae carafanau o’r cae ehangach. Nid yw’r safle o fewn yr
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) nac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig
ac ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn achosi niwed arwyddocaol i ansawdd y
dirwedd. Mae’r bwriad wedi ei ddylunio i gwrdd â gofynion trwyddedu o safbwynt
gofod a chyfleusterau ac felly derbyniwyd fod y datblygiad yn un safonol.
Nodwyd bod ail faen prawf
Polisi TWR 5 yn gofyn osgoi gormodedd o leiniau caled. Yn yr achos hwn ni
ddangosir unrhyw leiniau caled i’r carafanau – y trac graean sydd yn arwain i
fyny’r cae o’r fynedfa yw’r unig lain caled ac ystyriwyd y gall y trac
ymdoddi’n rhwydd i’r dirwedd. Gan na ddangosir lleiniau caled, ystyriwyd y byddai’n
addas gosod amod bod unrhyw leiniau caled yn cael ei gyfyngu i leiniau’r
carafanau yn unig.
Yng nghyd-destun y trydydd
maen prawf sy’n gofyn sicrhau mai unedau teithiol yn unig fyddai’n defnyddio’r
safle, amlygwyd y gellid rheoli hynny drwy amod cynllunio priodol.
Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, ar sail pellter a natur guddiedig y cae, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol nac achosi aflonyddwch ar unrhyw drigolion cyfagos. Ystyriwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6