7 Cais Rhif C21/0493/09/AC PV Parc Solar yn Morfa Camp Sandilands, Tywyn, LL36 9BH PDF 471 KB
Diwygio a dileu amodau ar ganiatâd
cynllunio C15/0662/09/LL
AELOD LLEOL:
Cynghorydd John Pughe
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag
amodau
1.
Cwblheir
y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar
gynllun(iau) rhif 1137/28, 1137/30-03, 1137/24, 1137/30-1, 1137/02B, 1137/05,
1137/07 V2, 1137/23/1137/25-2, 1137/29 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio
Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill
gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi
ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.
2.
Dylid gorffen defnyddio’r tir at ddibenion cynhyrchu trydan fel y
caniateir yma 35 mlynedd neu’n gynharach o ddyddiad cynhyrchu egni y paneli
solar, neu o fewn 6 mis i orffen defnyddio unrhyw baneli solar at ddibenion
cynhyrchu trydan (oni bai iddynt gael eu hamnewid o fewn y cyfnod hwnnw) pa un
bynnag yw’r cynharaf, ac fe ddylid gwneud hynny yn unol â chynllun gwaith a
fydd eisoes wedi ei gyflwyno a’i gytuno’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod
Cynllunio Lleol a bydd hwnnw’n cynnwys rhaglen weithredu. Cwblheir y cynllun gwaith yn unol â’r manylion
a gytunir a bydd y rhain yn cynnwys-
1.
Datganiad dull ar gyfer dad-gomisiynu a datgymalu’r holl gyfarpar ar y
safle;
2.
Manylion unrhyw eitemau sydd am eu gadael ar y safle;
3.
Datganiad dull ar gyfer adfer y tir i amaethyddiaeth;
4.
Amserlenni
ar gyfer digomisiynu, gwaredu ac adfer y tir;
5.
Datganiad dull ar gyfer gwaredu / ailgylchu priodol cyfarpar /
strwythurau segur;
6.
Darpariaeth ar gyfer adolygu’r cynllun fel bo angen.
3.
Rhaid gweithredu’r Asesiad Risg Bioddiogelwch dyddiedig 9 Rhagfyr 2015
trwy gydol oes y datblygiad, oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig
gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
4.
Os y bwriedir gosod system oleuo ar y safle ar unrhyw adeg bydd gofyn
cyflwyno a chytuno yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol fanylion y
system oleuo hynny gan dangos math, union leoliad, lefel goleuedd a’r modd o
ddiogelu rhag llygredd neu gorlif golau.
Rhaid fydd gosod y system oleuo yn unol gyda’r manylion gytunwyd.
5.
Rhaid i’r
datblygiad gael ei weithredu’n llwyr unol gyda’r Cynllun Rheolaeth Tirwedd ac
Ecolegol (v5) dyddiedig 10 Mawrth 2021, Adroddiad Monitro Ehedydd cyf S_MSF_V4
dyddiedig 9 Mawrth 2021 a’r Cynllun Tirlunio rhif 1137/29 drwy gydol oes y
datblygiad, oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod
Cynllunio Lleol.
6.
Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad gweithredol gymryd lle yn ystod unrhyw
waith yn gysylltiedig gyda’r caniatâd yma o fewn 3 medr naill ochr i linell
ganol y pibelli cyflenwad sy’n croesi’r safle.
7.
Rhaid i’r
datblygiad gael ei weithredu mewn cydymffurfiaeth lwyr gyda’r Datganiad Dull
Cynllun Adeiladu ac Asesiad Risg gan Corylus
dyddiedig Rhagfyr 2015 er diogelu cyflwr strwythurol y ddwy bibell cyflenwad
sy’n croesi’r safle. Ni chaniateir cario
allan unrhyw ddatblygiad pellach yn gysylltiedig gyda’r caniatâd yma hyd nes y
bydd y mesurau diogelu wedi cael eu gweithredu a’u cwblhau
Cofnod:
Diwygio a
dileu amodau ar ganiatâd cynllunio C15/0662/09/LL
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i ddiwygio a dileu amodau ar fferm solar
yn Nhywyn. Nodwyd bod y caniatâd wedi ei weithredu a’r fferm yn ei lle, ond bod
bwriad diwygio amodau i adlewyrchu ceisiadau cynllunio mwy diweddar.
Eglurwyd bod y bwriad yn ymwneud yn bennaf gyda
diwygio strategaeth lliniaru ehedydd a gytunwyd o dan amod 14 o gais
C15/0662/09/LL. Nodwyd bod yr hyn a gytunwyd fel rhan o’r amod yn clustnodi cae
i’r gogledd o’r safle solar ar gyfer yr ehedydd, ond fel rhan o’r cais dan sylw
mae’r datblygwr am wella’r amodau o fewn y safle er budd yr ehedydd yn hytrach
na defnyddio’r cae nodedig.
Cyflwynwyd y cais i bwyllgor oherwydd bod y
safle dros 0.5 hectar.
Adroddwyd, gan fod y cais yn ymwneud a diddymu
amodau a osodwyd am resymau cynllunio dilys bod rhaid edrych os yw’r amodau dan
sylw’n berthnasol mwyach dan y canllawiau cenedlaethol mewn perthynas ag amodau
cynllunio sydd wedi’u cynnwys yng Nghylchlythyr Llywodraeth Cymru 016/2014:
Defnyddio Amodau Cynllunio i Reoli Datblygu. Fe restrai’r cylchlythyr chwe phrawf
ar gyfer dilysrwydd amodau cynllunio a bod hi’n angenrheidiol ystyried os yw’r
amodau yn cyd-fynd â’r profion isod:
• Eu
bod yn hanfodol.
• Eu
bod yn berthnasol i gynllunio.
• Eu
bod yn berthnasol i’r datblygiad sydd i’w ganiatáu.
• Y
gellir eu gorfodi.
• Eu
bod yn fanwl.
• Eu
bod yn rhesymol ym mhob agwedd arall.
Amlygwyd nad oedd rheswm dros addasu rhai o’r
amodau gwreiddiol ond bod gofyn i’r datblygwr barhau i gydymffurfio a hwy.
Gwnaed cais i ddileu amod 13: Cyflwyno a chytuno manylion system
goleuo’r safle gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Fel rhan o gais C15/1368/09/AC, nodwyd nad oedd bwriad
gosod unrhyw oleuadau fel rhan o’r datblygiad a gyda’r gwaith o ddatblygu’r
fferm solar wedi ei gwblhau bellach, amlygwyd nad oedd goleuadau wedi eu gosod
ar y safle. Fodd bynnag, petai angen
gosod goleuadau ar y safle yn y dyfodol yna nid yw pob math o olau angen
caniatâd cynllunio. Ystyriwyd y gall
gosod goleuadau gael effaith posibl ar fwynderau, gweledol a thrigolion lleol,
ynghyd a bioamrywiaeth ac felly ystyriwyd y byddai’n briodol diwygio’r amod yn
hytrach na’i dileu. Awgrymwyd gosod amod
fyddai yn nodi os bwriedir gosod system oleuo ar safle’r fferm solar bydd rhaid
cyflwyno a chytuno'r manylion hynny gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Byddai hyn yn cadw rheolaeth dros unrhyw
oleuadau posibl allai gael eu rhoi ar y safle ac ystyrir y byddai amod o’r fath
yn rhesymol.
Prif ystyriaeth y cais oedd amod 14 Cyn cychwyn gwaith angen cyflwyno a chytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol gynllun tirlunio a phlannu. Eglurwyd, fel rhan o gais C15/1368/09/AC, cyflwynwyd a chytunwyd ar Gynllun Rheolaeth Tirwedd ac Ecoleg ynghyd a chynllun tirweddu oedd yn cynnwys bwriad i glustnodi cae i’r gogledd o’r fferm solar fel dôl gwair ar gyfer ehedydd, i blannu eithin a helygen ac i reoli’r tir o fewn y fferm ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7