8 DIGWYDDIADAU 2023 PDF 252 KB
I hysbysu’r Aelodau o ddigwyddiadau 2023
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Cofnod:
Cyflwynwyd rhestr
o ddyddiadau ar gyfer 2023 oedd yn cynnwys dyddiadau pwyllgorau, paneli
buddsoddi, sesiynau hyfforddi, fforymau gwybodaeth, seminarau a chynadleddau.
Amlygwyd yr angen i enwebu Aelodau i fynychu’r fforymau, y seminarau a’r
cynadleddau.
Nodwyd, bod
dyddiad y Panel Buddsoddi oedd wedi ei drefnu ar gyfer 25ain o Fai bellach wedi ei ail drefnu ar gyfer 15eg o
Fehefin 2023, oherwydd gwrthdaro gyda chyfarfod arfaethedig o’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ar y 25ain o Fai.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau:
·
Bod angen cysylltu a chynnig lle i’r ddau aelod
oedd wedi ymddiheuro
·
Os na fydd enwebiad gan Aelod o’r Pwyllgor, bydd
gwahoddiad yn cael ei ymestyn i aelodau’r Bwrdd Pensiwn
PENDERFYNWYD
·
Derbyn
a chadarnhau enwebiadau ar gyfer mynychu digwyddiadau 2023 gan gysylltu a chynnig lle i’r aelodau oedd wedi ymddiheuro.
·
Ymestyn
gwahoddidau i Aelodau’r Bwrdd Pensiwn os bydd llefydd gwag.