Alwen Williams, Prif Weithredwr y CBC i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Nodwyd a derbyniwyd cynnwys yr adroddiad oedd yn cadarnhau fod
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi dewis i ddefnyddio Cronfa Bensiwn
Gwynedd, ac felly bydd Cyngor Gwynedd yn awdurdod gweinyddol Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Alwen Williams (Prif Weithredwr y CBC)
PENDERFYNIAD
Nodwyd a derbyniwyd cynnwys yr adroddiad oedd yn
cadarnhau fod Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi dewis i ddefnyddio Cronfa
Bensiwn Gwynedd, ac felly bydd Cyngor Gwynedd yn awdurdod gweinyddol Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad ar ddethol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gan nodi bod gofyniad i
adrodd i Lywodraeth Cymru erbyn 22 Rhagfyr, 2022 i gadarnhau pa Awdurdod
gweinyddol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)
fydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer CBC Gogledd Cymru.
Adroddwyd bod dau
Gynllun union yr un fath wedi eu hystyried sef Cronfa Bensiwn Clwyd (Cyngor Sir
y Fflint) a Chronfa Bensiwn Gwynedd (Cyngor Gwynedd). Penderfynwyd ei bod yn
gwneud synnwyr i enwebu Cynllun Pensiwn Cyngor Gwynedd, gan fod gweithwyr
presennol Uchelgais Gogledd Cymru yn aelodau o Gronfa Bensiwn Gwynedd, a
gallai’r trefniadau hynny drosglwyddo i’r CBC yn y dyfodol, felly byddai cynnal
yr un trefniadau pensiwn yn rhesymegol. Cadarnhawyd hyn i Lywodraeth Cymru ar
21 Rhagfyr, 2022. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn cadarnhau’r penderfyniad ac er
gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig.
Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth
¾ Mynegwyd parodrwydd i
gefnogi’r argymhelliad.
¾ Nid oedd unrhyw
sylwadau pellach.