6 CYLLIDEB 2023/24 CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD AC ARDOLL AR AWDURDODAU CYFANSODDOL PDF 779 KB
Dewi A Morgan, Prif Swyddog Cyllid y CBC, Dafydd L Edwards, Swyddog
Arweiniol y Prosiect CBC a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp y CBC i gyflwyno’r
adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd mabwysiadu opsiwn B gyda chyfanswm
£764,820 ar gyfer Cyllideb 2023/24 Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd, ac i gymeradwyo’r ardoll
berthnasol ar yr awdurdodau cyfansoddol, fel y’i nodwyd o dan Opsiwn B.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dafydd L. Edwards (Swyddog Arweiniol Prosiect y Cydbwyllgor).
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd mabwysiadu opsiwn B gyda chyfanswm £764,820 ar gyfer Cyllideb 2023/24 Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd, ac i gymeradwyo’r ardoll
berthnasol ar yr awdurdodau cyfansoddol, fel y’i nodwyd o dan Opsiwn B.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei bod yn ofynnol i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig gymeradwyo ei
gyllideb erbyn diwedd Ionawr, 2023. Eglurwyd bod dau opsiwn wedi eu llunio ar
gyfer gwahanol lefelau o weithrediad tuag at gyflawni’r swyddogaeth Cynllunio a
Thrafnidiaeth a galluogi’r Cyd-bwyllgor i weinyddu yn briodol.
Nodwyd bod Opsiwn
A yn adlewyrchu dyheadau swyddogion proffesiynol Trafnidiaeth a Chynllunio i
gyflawni’r ddau gynllun strategol. Ychwanegwyd mewn sefyllfa ddelfrydol byddai
Opsiwn A yn cael ei argymell ar gyfer cyllideb y CBC ar gyfer 2023/24, ond yng
nghyd-destun y pwysau ariannol ar sawl awdurdod eleni, cyflwynwyd opsiwn B fel
cyllideb isafswm realistig a dyma yw’r argymhelliad.
Ychwanegwyd bod
opsiwn B yn adlewyrchu penderfyniadau blaenorol y Cyd-bwyllgor o ran tybiaeth o
lefel adnoddau. Nodwyd bod amcangyfrifon 2022/23 yn cynnwys tybiaeth o gyflogi
swyddogion Trafnidiaeth am 9 mis a swyddogion Cynllunio am 4 mis, tra byddai
cyllideb 2023/24 yn cynnwys effaith blwyddyn lawn o gyflogi'r uchod am 12 mis
llawn. Ategwyd bod yr opsiwn hwn yn cynnwys amcangyfrif o rôl y Prif Swyddog am
ddau ddiwrnod yr wythnos ynghyd a chost swyddogaethau corfforaethol i gefnogi’r
Is-bwyllgor Cynllunio a’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth.
Mynegwyd y byddai
cost Opsiwn B hefyd yn llai nac Opsiwn A am ei fod yn rhagdybio defnydd un tro
o gronfeydd wrth gefn gwerth £80,000, sef amcangyfrif o danwariant blwyddyn
ariannol 2022/23. Yn ogystal, nodwyd yr angen i godi ardoll ar wahân ar gyfer
swyddogaethau Cynllunio, a swyddogaethau eraill. Nodwyd y byddai Awdurdod Parc
Eryri yn cyfrannu at gost yr elfen Cynllunio yn unig. Awgrymwyd dosrannu’r
ardoll rhwng yr Awdurdodau cyfansoddol ar sail y boblogaeth berthnasol i’r maes
gwaith. Nodwyd bod y symiau ardoll ar gyfer yr Awdurdodau unigol wedi eu manylu
ym mhwnt 2.2 o’r adroddiad.
Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth
¾ Nodwyd cefnogaeth i
gefnogi Opsiwn B.
¾ Gwnaethpwyd sylw bod angen
trafodaethau pellach ar feysydd Cynllunio, Economi a Thrafnidiaeth efo’r Prif
Weithredwyr er mwyn cynllunio ar gyfer y ffordd ymlaen yng nghyd-destun y
Cyd-bwyllgor Corfforedig. Roedd awydd i drafod trefniadau'r Is-bwyllgorau gan
sicrhau cyfarfodydd buan. Gofynnwyd i drefnu cyfarfod efo’r Arweinyddion a’r
Prif Weithredwyr cyn gynted a bo modd i drafod yr uchod.
¾ Eglurwyd ei bod yn
debygol y bydd cyfarfod blynyddol o'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cael ei
gynnal ym mis Mai ble bydd Cadeirydd yn cael ei benodi am y flwyddyn Bwyllgorau
2023/24.