7 DATGANIAD CYFRIFON CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD AR GYFER 2021/22 PDF 497 KB
Dewi A Morgan, Prif Swyddog Cyllid y CBC a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp
y CBC i gyflwyno’r datganiad Cyfrifon statudol ar gyfer blwyddyn ariannol
2021/22.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd Datganiad Cyfrifon Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd ar
gyfer 2021/22 a rhoddwyd grym i’r Cadeirydd arwyddo’r datganiad yn Atodiad 1,
cyn iddo gael ei gyflwyno i Archwilio Cymru.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp y CBC).
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd
Datganiad Cyfrifon Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2021/22 a
rhoddwyd grym i’r Cadeirydd arwyddo’r datganiad yn Atodiad 1, cyn iddo gael ei
gyflwyno i Archwilio Cymru.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi ei bod wedi dod yn amlwg yn ddiweddar bod angen datganiad blynyddol ffurfiol am y flwyddyn ariannol 2021/22, er nad oedd
unrhyw drafodion ar gyfer CBC y Gogledd. Nodwyd, fel mater o ffurfioldeb, yr
adroddiad oedd yn cadarnhau nad oedd unrhyw drafodion yn y flwyddyn ariannol
2021/22, a’r datganiad blynyddol oedd yn Atodiad 1 er cymeradwyaeth y
Cydbwyllgor, er mwyn cydymffurfio â’r gofynion statudol perthnasol.