8 DYDDIADAU CYFARFODYDD Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG AR GYFER 2023/24 PDF 196 KB
I gytuno ar ddyddiadau arfaethedig ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer y flwyddyn 2023/24.
Penderfyniad:
Cytunwyd ar y dyddiadau a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer
cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24 ac addasiad i
ddyddiad y cyfarfod Mawrth 2023.
Yn ogystal cytunwyd i Brif Weithredwr y
CBC drefnu cyfarfod anffurfiol efo Arweinyddion a Prif Weithredwyr i drafod y
ffordd ymlaen gyda Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cadeirydd.
PENDERFYNIAD
Cytunwyd ar y dyddiadau a nodwyd yn yr
adroddiad ar gyfer cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24
ac addasiad i ddyddiad y cyfarfod Mawrth 2023.
Yn ogystal cytunwyd i Brif Weithredwr y CBC drefnu
cyfarfod anffurfiol efo Arweinyddion a Prif Weithredwyr i drafod y ffordd
ymlaen gyda Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad oedd yn nodi dyddiadau cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd ar gyfer 2023/24. Eglurwyd y bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y
prynhawn er mwyn osgoi gwrthdaro â chyfarfodydd CLlLC.
Cyfeiriwyd yn ogystal at addasu dyddiad y cyfarfod nesaf o’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig ym mis Mawrth 2023.
Nid
oedd unrhyw sylwadau pellach a derbyniwyd yr adroddiad i bennu’r dyddiadau a
nodwyd.
Cyfeiriwyd
yn ôl ar y sylw gafodd ei dderbyn dan eitem 6 a cytunwyd i drefnu’r cyfarfod
anffurfiol efo Arweinyddion a Prif Weithredwyr; bydd Prif Weithredwr y
Cyd-bwyllgor Corfforedig yn trefnu.